Mawrth 2025
5 Mawrth: Noson gwis a diwrnod crempog
Gyda gêm Yr Alban ar y dydd Sadwrn canlynol, bydd noson gwis y Chwe Gwlad i’r bobl ifanc ar y thema ‘popeth yn ymwneud â’r Alban’.
Cyfle i wneud crempogau i ddathlu Dydd Mawrth Ynyd.
Ar gyfer Diwrnod Datgysylltu Byd-eang bydd pobl ifanc yn trafod y syniad o gael seibiant o dechnoleg a dod o hyd i gydbwysedd iach ar gyfer technoleg yn eu bywydau.
12 Mawrth: Noson gwis a paned a sgwrs
Gyda gêm Lloegr ar y dydd Sadwrn canlynol, bydd noson gwis y Chwe Gwlad i’r bobl ifanc ar y thema ‘popeth yn ymwneud â’r Lloegr’.
Y testun ar gyfer trafodaeth: digartrefedd ieuenctid.
19 Mawrth: Diwrnod Ailgylchu Byd-eang
Bydd pobl ifanc yn archwilio pwnc ailgylchu ac:
- yn trafod a all Sir Ddinbych wneud yn well
- ystyried gwastraff bwyd a gweld beth allwn ni ei wneud gan ddefnyddio cynhwysion o’r cynllun Rhannu Bwyd
- gwneud arwydd ar gyfer y clwb ieuenctid gan ddefnyddio deunyddiau wedi eu hailgylchu
26 Mawrth: Sul y Mamau a Diwrnod Theatr y Byd
Bydd pobl ifanc yn cymryd rhan mewn noson ffilm a phopcorn, yn ogystal â chrefftau Sul y Mamau.