Clwb ieuenctid Corwen

Mynd yn syth i:

Clwb ieuenctid Corwen

Oriau agor

Dydd Mawrth: 6pm i 8pm i bobl ifanc ym mlwyddyn ysgol 7 ac uwch.

Yn ôl i frig y dudalen.

Gweithgareddau

Darganfod beth sy’n digwydd yng Nghorwen.

Tachwedd 2024

Tachwedd 2024

13 Tachwedd: Ymgartrefu

Croeso i’n lle newydd! Fe fyddwn ni’n trafod syniadau ar gyfer gweithgareddau y gallwn ni eu gwneud gan fod gennym ni fwy o le a lle’r tu allan.

Fe fyddwn ni hefyd yn cynnal cystadleuaeth pŵl ac yn gwneud amser i ymlacio a sgwrsio.


20 Tachwedd: Archwilio’r awyr agored (Sesiwn 1)

Fe fydd Becky o’r Gwasanaeth Cefn Gwlad yn dangos i ni pa mor gyffrous y gall hi fod yn yr awyr agored gyda gweithgareddau awyr agored a phethau i’w gwneud gyda deunyddiau naturiol.


27 Tachwedd: Archwilio’r awyr agored (Sesiwn 2)

Mae Becky o’r Gwasanaeth Cefn Gwlad yn ôl eto i ddangos mwy o bethau y gallwn eu gwneud yn yr awyr agored.

Rhagfyr 2024

Rhagfyr 2024

4 Rhagfyr: Creu torchau gyda phreswylwyr Llygadog

Gall y bobl ifanc ymuno â phreswylwyr Llygadog i greu torchau Nadoligaidd. Fe fyddwn ni’n cynllunio’r bwyd a gweithgareddau ar gyfer parti’r wythnos nesaf.


11 Rhagfyr: Parti Nadolig gyda phreswylwyr Llygadog

Dathliad o’r Nadolig gyda phreswylwyr Llygadog. Fe fydd yna bingo cerddoriaeth, bwyd parti, pinio trwyn Rwdolff a mwy.


18 Rhagfyr: Hwyl y Nadolig

Naill ai ffilm Nadolig neu drip i’r panto fydd y sesiwn yma - i’w gadarnhau.

Os nad ydych chi wedi cofrestru efo ni’n barod, defnyddiwch y ddolen berthnasol ar gyfer eich oedran. Dylai plant a phobl ifanc dan 13 oed ofyn i riant neu ofalwr lenwi’r ffurflen.

Cofrestru gyda chlwb ieuenctid Corwen (13 oed a hŷn)

Cofrestru gyda chlwb ieuenctid Corwen (dan 13 oed)

Yn ôl i frig y dudalen.

Cyfleusterau

  • Mynediad i bobl anabl
  • WiFi am ddim
  • Bwrdd pŵl
  • Tennis bwrdd
  • Xbox
  • Deunyddiau celf a chrefft
  • Gemau bwrdd

Yn ôl i frig y dudalen.

Cwrdd â’r tîm

Charlotte Morris ydi Gweithiwr Ieuenctid Cymunedol ardal Dyffryn Dyfrdwy. Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn fe allwch chi siarad efo hi wyneb yn wyneb neu’n defnyddio’r manylion isod.

Yn ôl i frig y dudalen.

Mesurau diogelwch Covid


Rydym yn parhau i ddilyn y cyngor a roddir gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â COVID-19 (gwefan allanol). Peidiwch â dod i mewn i’r ganolfan os ydych chi neu’r bobl rydych chi’n byw gyda nhw yn sâl neu’n dangos symptomau o COVID-19. Tra’r ydych yn y ganolfan, dilynwch unrhyw arwyddion â chyfarwyddiadau diogelwch arnynt ac unrhyw geisiadau gan staff. 

Yn ôl i frig y dudalen.

Sut i ddod o hyd i ni a chysylltu efo ni

Canolfan NI
London Road
Corwen
LL21 0DG

Cysylltwch â chanolfan ieuenctid Corwen arlein

Ffôn: 01490 413429

Rhif ffôn symudol Charlotte Morris: 07880 300420

Sut i gyrraedd yma

Cynlluniwch eich taith gyda Traveline Cymru (gwefan allanol)

Meysydd parcio agosaf y Cyngor ydi:

Map o'r lleoliad

Sgipiwch y map gweladwy.