Seibiant i Rieni - y Blynyddoedd Cynnar

Mae'r cwrs 'Seibiant i Rieni - y Blynyddoedd Cynnar' yn dod â rhieni a gofalwyr at ei gilydd i edrych ar feithrin perthnasoedd iach gyda'u babanod, plant bach a phlant cyn oedran ysgol a datblygu dysgu drwy hwyl a chwarae.

Rhianta a phlentyn yn edrych ar lyfr

Ar gyfer pwy mae’r sesiynau

Dim ond ar gyfer rhieni/gofalwyr yn y rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf neu'r rhaglen Dechrau'n Deg sydd â babanod, plant bach a/neu blant cyn oedran ysgol y mae’r cwrs hwn.

Pryd a lle fydd y sesiynau’n digwydd?

Bydd y cwrs 'Seibiant i Rieni - y Blynyddoedd Cynnar' nesaf yn dechrau ym mis Hydref 2024. Cynhelir sesiynau ar gyfer y cwrs hwn yng Nghanolfan Margaret Morris rhwng 9:30am a 11:30am ar:

  • Dydd Iau 3 Hydref 2024
  • Dydd Iau 10 Hydref 2024
  • Dydd Iau 17 Hydref 2024
  • Dydd Iau 24 Hydref 2024
  • Dydd Iau 31 Hydref 2024
  • Dydd Iau 7 Tachwedd 2024
  • Dydd Iau 14 Tachwedd 2024
  • Dydd Iau 21 Tachwedd 2024
  • Dydd Iau 28 Tachwedd 2024 - mae'r sesiwn hon yn cynnwys Gweithdy Bwyta'n Ddoeth/Arbed yn Well

Gwybodaeth am y Lleoliad

Cyfeiriad y lleoliad lle cynhelir y sesiynau yw:

Canolfan Margaret Morris
Ysgol Pendref
Dinbych
LL16 3RU

Parcio

Gallwch barcio yn y lleoliad.

Cyfleusterau ar gyfer pobl anabl

Mae mynediad a thoiledau anabl yn y lleoliad.

Sut i gymryd rhan

Rhaid i chi archebu lle er mwyn cymryd rhan yn y cwrs hwn.

Rydym yn argymell eich bod yn mynychu bob un o’r sesiynau i gael y mwyaf allan o’r grŵp.

I gadw lle ar y cwrs hwn, ffonio 01824 708089:

  • Dydd Llun i Dydd Iau, 9am tan 5pm
  • Dydd Gwener, 9am tan 4:30pm

Mwy o wybodaeth

Caiff y cwrs hwn yn ei gyflwyno gyda chymorth Gofal i'r Teulu. 

Dysgwch fwy am y cwrs Gofal i’r Teulu 'Seibiant i Rieni - y Blynyddoedd Cynnar' (gwefan allanol)

Logo Care for the Family