Time Out for Parents - Teenage Years

Nod y cwrs 'Seibiant i Rieni - Blynyddoedd yr Arddegau' yw cefnogi teuluoedd gyda phobl ifanc yn eu harddegau i helpu i gael gwell dealltwriaeth o bobl ifanc a byw bywyd tawelach a hapusach.

Dau blentyn yn eistedd wrth ymyl ei gilydd

Ar gyfer pwy mae’r sesiynau? 

Dim ond ar gyfer rhieni/gofalwyr yn y rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf neu'r rhaglen Dechrau'n Deg sydd â phlant rhwng 13 a 19 oed y mae’r cwrs hwn.

Pryd a lle fydd y sesiynau’n digwydd?

Bydd y cwrs 'Seibiant i Rieni - Blynyddoedd yr Arddegau' nesaf yn dechrau ym mis Tachwedd 2024. Cynhelir sesiynau ar gyfer y cwrs hwn yn Ystafell Elm yng Nghanolfan y Dderwen rhwng 9:30am a 11:30am ar:

  • Dydd Mawrth 5 Tachwedd 2024
  • Dydd Mawrth 12 Tachwedd 2024
  • Dydd Mawrth 19 Tachwedd 2024
  • Dydd Mawrth 26 Tachwedd 2024
  • Dydd Mawrth 3 Rhagfyr 2024
  • Dydd Mawrth 10 Rhagfyr 2024
  • Dydd Mawrth 17 Rhagfyr 2024

Gwybodaeth am y Lleoliad

Cyfeiriad Canolfan y Dderwen yw

Fforddlas
Y Rhyl
LL18 2DY

Parcio

Mae maes parcio yng Nghanolfan y Dderwen.

Cyfleusterau ar gyfer pobl anabl

Mae gan Ganolfan y Dderwen:

  • Doiledau hygyrch
  • Parcio hygyrch
  • Dolen clyw
  • Lifft
  • Drysau awtomatig
  • Mynediad ar rampiau/mynediad ar lefel

Sut i gymryd rhan

Rhaid i chi archebu lle er mwyn cymryd rhan yn y cwrs hwn.

Rydym yn argymell eich bod yn mynychu bob un o’r sesiynau i gael y mwyaf allan o’r grŵp.

I gadw lle ar y cwrs hwn, ffonio 01824 708089:

  • Dydd Llun i Dydd Iau, 9am tan 5pm
  • Dydd Gwener, 9am tan 4:30pm

Mwy o wybodaeth

Caiff y cwrs hwn yn ei gyflwyno gyda chymorth Gofal i'r Teulu. 

Dysgwch fwy am y cwrs Gofal i’r Teulu ‘Seibiant i Rieni: Blynyddoedd yr Arddegau' (gwefan allanol)

Logo Care for the Family