Grŵp bwydo babanod wythnosol sy’n cynnig cyngor a chefnogaeth ar fwydo o’r fron a bwydo a diddyfnu babanod. Dewch i ymuno â’n staff iechyd profiadol a chyfarfod rhieni eraill a’u plant.

Ar gyfer pwy mae’r sesiynau?
Mae’r Grŵp Bwydo Babanod i holl deuluoedd Sir Ddinbych.
Pryd a lle fydd y sesiynau’n cael eu cynnal?
Cynhelir sesiynau Grŵp Bwydo Babanod bob dydd Iau (o 9 Ionawr 2025) yng Nghanolfan y Dderwen o 1pm i 2:30pm.
Gwybodaeth am y Lleoliad
Cyfeiriad Canolfan y Dderwen yw
Fforddlas
Y Rhyl
LL18 2DY
Parcio
Mae maes parcio yng Nghanolfan y Dderwen.
Cyfleusterau ar gyfer pobl anabl
Mae gan Ganolfan y Dderwen:
- Doiledau hygyrch
- Parcio hygyrch
- Dolen clyw
- Lifft
- Drysau awtomatig
- Mynediad ar rampiau/mynediad ar lefel
Sut i gymryd rhan
Nid oes raid i chi archebu lle ar gyfer y Grŵp Bwydo Babanod.
Mwy o wybodaeth
Os hoffech fwy o wybodaeth am y sesiynau Grŵp Bwydo Babanod ffoniwch 03000856594.