Dewch i Goginio

Mae'r cwrs Dewch i Goginio yn gwrs coginio ymarferol, sy'n dysgu hanfodion bwyd a maeth mewn amgylchedd hamddenol a chyfeillgar.

Y sesiynau a gaiff eu cynnwys yn y cwrs hwn yw:

  • Hylendid a Diogelwch Bwyd - Coginio Ymarferol
  • Y Canllaw Bwyta'n Iach - Coginio Ymarferol
  • Cynllunio Pryd Cytbwys - Coginio Ymarferol
  • Cyfrifo Cost Pryd Iach - Coginio Ymarferol

Mae gweithdy Bwyta'n Ddoeth / Arbed yn Well wedi'i gynnwys hefyd.

Bwrdd gyda bwyd

Ar gyfer pwy mae’r sesiynau?

Dim ond ar gyfer rhieni/gofalwyr yn y rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf neu'r rhaglen Dechrau'n Deg.

Pryd a lle fydd y sesiynau’n cael eu cynnal?

Mae’r sesiynau ‘Dewch i Goginio’ yn cael eu cynnal yn Ystafell Elm yng Nghanolfan y Dderwen, 12:30pm tan 2:30pm ar:

  • Dydd Llun 16 Medi 2024
  • Dydd Llun 23 Medi 2024
  • Dydd Llun 30 Medi 2024
  • Dydd Llun 7 Hydref 2024
  • Dydd Llun 14 Hydref 2024 (gweithdy Bwyta'n Ddoeth / Arbed yn Well)

Gwybodaeth am y Lleoliad

Cyfeiriad Canolfan y Dderwen yw

Fforddlas
Y Rhyl
LL18 2DY

Parcio

Mae maes parcio yng Nghanolfan y Dderwen.

Cyfleusterau ar gyfer pobl anabl

Mae gan Ganolfan y Dderwen:

  • Doiledau hygyrch
  • Parcio hygyrch
  • Dolen clyw
  • Lifft
  • Drysau awtomatig
  • Mynediad ar rampiau/mynediad ar lefel

Sut i gymryd rhan

Rhaid i chi archebu lle er mwyn cymryd rhan yn y cwrs hwn.

Rydym yn argymell eich bod yn mynychu bob un o’r sesiynau i gael y mwyaf allan o’r grŵp.

Sut i gymryd rhan

I gadw lle ar y cwrs hwn, ffonio 01824 708089:

  • Dydd Llun i Dydd Iau, 9am tan 5pm
  • Dydd Gwener, 9am tan 4:30pm