Bod yn ddarparwr gofal plant Dechrau’n Deg
Os ydych yn ddarparwr gofal plant, gallwch gofrestru’ch diddordeb mewn darparu gwasanaethau Dechrau’n Deg.
Cymhwysedd
Er mwyn darparu gwasanaethau Dechrau'n Deg, mae’n rhaid i ddarparwyr gofal plant:
- fod wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)
- fod yn darparu gofal plant o ansawdd uchel
- fod wedi derbyn sgôr ‘da’ yn eu hadroddiad Estyn mwyaf diweddar
- heb fod â meysydd o ddiffyg cydymffurfio yn eich Adroddiad AGC
Y gefnogaeth y gallwch ei ddisgwyl gennym ni
Fe glustnodir Cymhorthydd Addysgu Dechrau’n Deg i leoliadau gofal plant sy’n darparu gwasanaethau Dechrau’n Deg a fydd yn:
- gweithio i feithrin perthnasoedd cryf gyda’r lleoliad
- darparu cefnogaeth ac arweiniad pan fo’i angen
- cyfeirio lleoliadau at hyfforddiant a chyllid sydd ar gael iddynt
Cofrestrwch eich diddordeb mewn darparu gwasanaethau Dechrau'n Deg
Gallwch gofrestru eich diddordeb ar-lein i ddarparu gwasanaethau Dechrau’n Deg.
Gallwch hefyd gofrestru eich diddordeb ar-lein i ddarparu Addysg Gynnar – 10 awr o addysg am ddim.
Dysgwch fwy am Addysg Gynnar – 10 awr o addysg am ddim
Cofrestrwch eich diddordeb mewn darparu gwasanaethau Dechrau'n Deg
Ar ôl cofrestru eich diddordeb
Ar ôl cofrestru diddordeb eich lleoliad gofal plant, byddwn yn:
- adolygu eich cais
- byddwn yn trefnu cyfarfod i drafod eich lleoliad, egluro'r broses gofrestru a disgwyliadau Dechrau'n Deg
- byddwn angen Adolygiad Safon Gofal a/neu Gynllun Gwella Lleoliad diweddar
- byddwn yn gosod dyddiad ar gyfer asesiad (sydd yn para am sesiwn lawn) a byddwn yn defnyddio Fframwaith Cefnogi Lleoliad i sgorio a bydd adroddiad yn cael ei goladu o hwn. Os yw eich sgorau yn gymwys, fe'ch gwahoddir am gyfweliad.