Hyfforddiant GGD: Cymorth Cyntaf Pediatrig (cwrs 12 awr)
Mae’r cwrs Cymorth Cyntaf Pediatrig 12 awr yn darparu cymhwyster Cymorth Cyntaf Pediatrig i gydymffurfio gyda Safonau Gofynnol Cenedlaethol (SGC) Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).
Dan SGC AGC, mae’n ofynnol fod gan 1 aelod o staff i bob 10 o blant mewn lleoliad gofal plant y cymhwyster Cymorth Cyntaf Gofal Plant hwn. Er enghraifft, byddai angen i 7 aelod o staff o leiaf gael y cymhwyster mewn lleoliad sydd wedi cofrestru 70 o blant.
Mae’r cwrs hwn yn trafod nifer o bynciau, gan gynnwys:
- Rôl Swyddog Cymorth Cyntaf Pediatrig
- Adnabod a Rheoli Ffitiau
- Adnabod a Rheoli Argyfyngau Diabetig
- Adnabod a Rheoli Tagu
- Adnabod a Rheoli Asthma
- Ymdrin ag, a rheoli unigolyn anymwybodol
- Perfformio dadebriad (CPR gan gynnwys defnydd AED yn ddiogel)
- Adnabod arwyddion o meningitis
- Rheoli a thrin anafiadau, gwaedu a sioc
- Adnabod a rheoli confylsiyanu twymyn
- Adnabod a rheoli adweithiau alergaidd gan gynnwys sioc anaffylactig
- Adnabod a rheoli torasgwrn
- Adnabod a rheoli anafiadau i’r pen, y gwddf a’r cefn
- Rheoli anafiadau i’r llygaid, clustiau a’r wyneb
Caiff y cymhwyster ei asesu drwy arddangosiadau ymarferol a chwblhau cwestiynau ysgrifenedig.
Mae’n rhaid i ddysgwyr fynychu a chwblhau pob sesiwn i ennill y cymhwyster.
Mae'r cymhwyster yn ddilys am dair blynedd.
Pryd a lle fydd y cyrsiau’n digwydd?
Mae’r Cwrs Cymorth Cyntaf Pediatrig 12 awr yn cael ei gynnal:
- Dydd Mawrth 12 a Dydd Mercher 13 Tachwedd 2024, 9:30am tan 4:30pm yn Clwb Rygbi Rhuthun - wedi archebu yn llawn
- Dydd Mawrth 14 a Dydd Mercher 15 Ionawr 2025, 9:30am tan 4:30pm yng Nghanolfan y Dderwen, y Rhyl - wedi archebu yn llawn
- Dydd Mawrth 4 a Dydd Mercher 5 mis Mawrth 2025, 9:30am tan 4:30pm yn Clwb Rygbi Rhuthun
Gwybodaeth am y lleoliad
Canolfan y Dderwen, y Rhyl
Gwybodaeth am y Lleoliad am Nghanolfan y Dderwen
Cyfeiriad Canolfan y Dderwen yw
Fforddlas
Y Rhyl
LL18 2DY
Parcio
Mae maes parcio yng Nghanolfan y Dderwen.
Cyfleusterau ar gyfer pobl anabl
Mae gan Ganolfan y Dderwen:
- Doiledau hygyrch
- Parcio hygyrch
- Dolen clyw
- Lifft
- Drysau awtomatig
- Mynediad ar rampiau/mynediad ar lefel
Clwb Rygbi Rhuthun
Gwybodaeth am lleoliad Clwb Rygbi Rhuthun
Cyfeiriad Clwb Rygbi Rhuthun yw
Pavilion Cae Ddol
Rhuthun
LL15 2AA
Parcio
Mae maes parcio yn Clwb Rygbi Rhuthun.
Pwy gaiff fynychu?
Mae’r cwrs hwn ar gyfer pob darparwr gofal plant cofrestredig yn Sir Ddinbych sydd wedi cofrestru, neu sydd yn cofrestru, gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) (gwefan allanol).
Rhaid i'r lleoliad hefyd fod wedi'i gofrestru gyda Dewis.Cymru (gwefan allanol)
Sut i gymryd rhan
Bydd angen i bob unigolyn sydd am fynychu lenwi’r ffurflen gais ar-lein i gadw lle.
Ar ôl derbyn y cais archebu byddwn wedyn yn anfon e-bost cadarnhau gyda manylion eich cwrs hyfforddi sydd ar ddod.
Ffurflen archebu lle ar lein ar gyfer y Cwrs Cymorth Cyntaf Pediatrig 12 awr
Rhagor o wybodaeth
Caiff y cwrs hwn ei ddarparu gan Groundwork North Wales (gwefan allanol).
Canslo Archeb
Os ydych angen canslo archeb yna rhaid canslo eich lle o leiaf dau ddiwrnod gwaith cyn i’r cwrs gael ei gynnal. Codir tâl arnoch chi, neu'ch lleoliad gofal plant, os nad ydych yn canslo ar amser.
Canslo archeb ar-lein
Manylion lleoliad gofal plant ar Dewis Cymru
Mae’n bwysig eich bod chi’n diweddaru manylion eich lleoliad gofal plant ar Dewis Cymru.
Darganfod sut i ddiweddaru’ch manylion ar Dewis Cymru