Gofal plant ar gyfer darparwyr
Mae yna lawer o wahanol adnoddau a chefnogaeth ar gael i ddarparwyr gofal plant presennol a newydd.
Sut i gofrestru fel darparwr
AGC yw Arolygiaeth Gofal Cymru, sef y corff rheoleiddio ar gyfer cofrestru person i fod yn warchodwr plant.
Gellir cael rhagor o wybodaeth ar eu gwefan AGC (gwefan allanol) am sut i gofrestru fel darparwr gofal a dogfennau ategol a fydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisïau a newidiadau i reoliadau gofal plant.
Mae angen bodloni Safonau a Rheoliadau Gofynnol Cenedlaethol cyn dod yn ddarparwr gofal plant ac mae'r rhain hefyd ar gael ar wefan AGC.
Prynu neu gychwyn meithrinfa ddydd
Cyn cymryd y cam cyntaf tuag at gychwyn neu brynu busnes meithrinfa ddydd, mae’n hanfodol gwirio gyda’ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd er mwyn dysgu cymaint ag y gallwch am unrhyw ddarparwyr gofal dydd yn y cartref gan ofalwyr plant cofrestredig sydd yn yr ardal lle’r ydych yn ystyried agor neu brynu busnes gofal plant. Mynnwch gopi o’r Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant diweddaraf gan eich Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol. Ystyriwch hefyd pwy fydd eich cleientiaid tebygol a ble byddant yn byw neu’n gweithio, a’r nifer, y lleoliad a pha mor agos yw unrhyw ddarparwyr gofal dydd grŵp arall yn yr ardal at eich busnes arfaethedig.
O ran yr eiddo ei hun, rhaid i chi ystyried ei oed a’i ffurfwedd, sut mae’r llety wedi ei osod, ac os yw mewn adeilad wedi ei drosi fel tŷ neu os yw wedi ei adeiladu i bwrpas. Hefyd ystyriwch faint o ystafelloedd sydd yn yr adeilad a’u maint, ag os yw’r adeilad yn gynllun agored. Cofiwch fod rhaid i’r eiddo fod yn addas ar gyfer cael ei ddefnyddio gan blant ifanc mewn amgylchedd cartrefol gyda man chwarae awyr agored addas, man tawel a man cysgu ar gyfer babanod a phlant ifanc, cegin, a chyfleusterau newid a thoiled addas. Os ydych yn ystyried prynu busnes meithrinfa ddydd bresennol, dylech ddarllen ei adroddiadau archwilio, gan Yr Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Er mwyn cyfrifo’r incwm posib rhaid i chi gymryd costau rhedeg dyddiol y busnes i ystyriaeth. Er enghraifft, amcangyfrifir bod cyflogau staff oddeutu 80% o gostau meithrinfa ddydd a dyma’r gost uchaf o bell ffordd, o’i gymharu â golau a gwresogi, bwyd, cynnal a chadw, a theganau a llyfrau. Ystyriwch hefyd y nifer o blant y bydd y feithrinfa ddydd wedi ei chofrestru ar eu cyfer – faint o fabanod a phlant ifanc hyd at ddwy oed fydd yno a’r nifer o blant tair a phedair oed y mae eu lleoedd yn cael eu hariannu i raddau gan yr hawl i flynyddoedd cynnar os byddant yn mynychu am fwy na 10 awr yr wythnos. Ystyriaethau ariannol eraill yw cyfraddau busnes ac na fydd TAW ar gyfradd sero.
Sicrhewch hefyd fod gennych gynllun busnes da, cryf a chadarn sydd yn cymryd i ystyriaeth faint y gallwch fuddsoddi yn eich busnes o’ch cynilion neu arian ecwiti eich hun, ac/neu gael benthyciad banc er mwyn talu am gostau cychwyn a rhedeg y busnes.
Nid oes yn rhaid i chi gael unrhyw brofiad na chefndir blynyddoedd cynnar a gofal plant i gychwyn eich busnes meithrinfa ddydd eich hun, ond rhaid i chi fod yn ymwybodol bod gofal plant wedi newid yn sylweddol. Mae’n rhaid i ddarparwyr cofrestredig gydymffurfio â llawer iawn mwy o ddeddfwriaeth a rheolau, o gymwysterau staff i niferoedd ac oedran y plant fesul aelod o staff i’r cyfanswm o arwynebedd llawr fesul plentyn, yn ogystal â materion diogelwch plant, gwarchod plant, a safon y gofal a ddarperir.
Dolenni cyswllt a dogfennau ategol
Isod mae rhestr o ddolenni i wahanol sefydliadau a fydd yn rhoi mwy o ddealltwriaeth o ddarparu gofal plant i chi:
Cysylltwch â ni
Blwch Post 62
Rhuthun
Sir Ddinbych
LL15 9AZ