Cwrs Solihull: Deall eich plentyn

Mae’r cwrs Solihull: Deall eich Plentyn yn ffordd ddifyr, sefydledig a dibynadwy i ddeall mwy am eich plentyn.

Logo Cwrs Solihull: Deall eich plentyn

Datblygwyd y cwrs yn y GIG ynghyd ag ymarferwyr rheng flaen gan ganolbwyntio ar:

  • Ymateb i sut mae eich plentyn yn teimlo
  • Sut mae eich plentyn yn datblygu
  • Gwahanol ddulliau magu plant
  • Sut mae eich plentyn yn cyfathrebu
  • Deall ymddygiad eich plentyn
  • Cwsg, hunanreolaeth a dicter

Ar gyfer pwy mae’r cyrsiau?

Mae’r cwrs Solihull: Deall eich Plentyn ar gyfer mamau, tadau, neiniau a theidiau a gofalwyr yn Sir Ddinbych.

Pryd a lle fydd y cyrsiau’n digwydd?

Cynhelir y cyrsiau mewn ysgolion amrywiol ar draws Sir Ddinbych.

Ar hyn o bryd rydym yn diweddaru'r wybodaeth ynghylch pryd mae cyrsiau'n cael eu cynnal. Edrychwch ar y dudalen hon yn rheolaidd am ddiweddariadau.

Grŵp Facebook Blynyddoedd Cynnar a Chyswllt Teulu Sir Ddinbych

Os ydych chi ar Facebook, gallwch chi ymuno â grŵp Facebook Blynyddoedd Cynnar a Chyswllt Teulu Sir Ddinbych i gael syniadau a chyngor addysgiadol i blant dan oed ysgol.

Grŵp Facebook Blynyddoedd Cynnar a Chyswllt Teulu Sir Ddinbych (gwefan allanol)