Hyfforddiant Ymarfer sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn

Bydd yr Hyfforddiant Ymarfer sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn yn addysgu’r cyfranogwyr i ddefnyddio amrywiaeth o adnoddau cynllunio sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, a fydd yn eich helpu i weithio’n unigol gyda’r plant rydych chi’n gofalu amdanyn nhw ac yn eu cefnogi. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:

  • Diwrnod da – diwrnod gwael: Defnyddir yr adnodd hwn i gasglu gwybodaeth am beth sy’n gwneud diwrnod unigolyn yn un da neu’n un gwael, a’r hyn y gallwch ei wneud i sicrhau eu bod yn cael mwy o ddyddiau da.
  • Beth sy’n gweithio a ddim yn gweithio: Ciplun o safbwyntiau gwahanol bobl o sut mae pethau, beth sy’n gweithio’n dda a beth ddylai fod yn wahanol. Gall ganolbwyntio ar un maes bach o addysg y dysgwr neu fod yn fwy cyffredinol.
  • Proffiliau un dudalen: Mae proffil un dudalen yn sail i gefnogaeth sy’n canolbwyntio ar unigolion, ac mae’n cynnwys gwybodaeth allweddol am gymeriad, doniau a thalentau unigolion; beth sy’n bwysig iddyn nhw; a’r ffordd orau i’w cefnogi.

Mae’r sgiliau a ddisgrifir yn ymarferol ac yn hawdd eu defnyddio, ac yn rhoi gwybodaeth i chi y gallwch ei defnyddio’n uniongyrchol o fewn eich lleoliad a thu hwnt. Yn fwy na dim, maen nhw’n canolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig i blentyn unigol, gan eich galluogi chi i ddod i ddeall beth sydd o bwys iddyn nhw, ac i ganfod y ffyrdd gorau o’u cefnogi.

Fyddwch chi ddim yn wynebu rhestr o heriau neu broblemau i’w goresgyn ar y diwedd, gan y byddwch chi’n casglu ac yn rhannu’r hyn sydd bwysicaf i’r dysgwyr ac ar eu cyfer, o’u safbwynt nhw ac o safbwynt y bobl sydd agosaf atyn nhw. Bydd gennych chi ddarlun cyflawn sydd wir yn canolbwyntio ar yr unigolyn.

Pryd a lle fydd y cyrsiau’n cael eu cynnal?

Dewiswch dref neu ddinas i weld pryd a lle mae’r hyfforddiant hwn yn cael ei gynnal.

Rhuthun

Mae’r Hyfforddiant Ymarfer sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn yn Rhuthun yn cael ei gynnal yn Neuadd y Sir rhwng 9:30am a 12 hanner dydd, ddydd Iau 28 Tachwedd 2024.

Gwybodaeth am Neuadd y Sir

Cyfeiriad Neuadd y Sir yw :

Wynnstay Road
Ruthin
LL15 1YN

Parcio

Mae parcio ar gael yn Neuadd y Sir.

Y Rhyl

Mae’r Hyfforddiant Ymarfer sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn yn y Rhyl yn cael ei gynnal yn Siambr y Cyngor, Tŷ Russell rhwng 12:30pm a 3pm, ddydd Llun 25 Tachwedd 2024.

Gwybodaeth am Dŷ Russell

Cyfeiriad Tŷ Russell yw:

Ffordd Churton
Y Rhyl
LL18 3DP

Parcio

Mae parcio ar gael yn Tŷ Russell.

Llanelwy

Mae’r Hyfforddiant Ymarfer sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn yn Llanelwy yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Datblygu’r Gymraeg rhwng 6pm a 8:30pm, ddydd Llun 25 Tachwedd 2024.

Gwybodaeth am Ganolfan y Gymraeg

Cyfeiriad Canolfan y Gymraeg yw:

Canolfan Hamdden Llanelwy (Ysgol Glan Clwyd)
Ffordd Dinbych Uchaf
Llanelwy
LL17 0RP

Parcio

Ychydig iawn o leoedd parcio sydd ar gael yng Nghanolfan Hamdden Llanelwy. Mae lle parcio ychwanegol ar gael ar ochr Ysgol Glan Clwyd sydd agosaf at Ddinbych, a dylid ei ddefnyddio ar gyfer sesiynau’r pnawn oherwydd y bysiau ysgol.

Sicrhewch nad ydych chi'n parcio mewn lleoedd parcio'r canolfan hamdden. Mae’r lleoedd hyn wedi'u cyfyngu i'w defnyddio gan ddefnyddwyr Canolfan Hamdden Llanelwy.

Pwy sy’n cael dod?

Mae’r digwyddiad hwn ar gyfer:

  • staff darparwyr gofal plant blynyddoedd cynnar yn Sir Ddinbych
  • staff Blynyddoedd Cynnar a Chydlynwyr ADY ysgolion Sir Ddinbych
  • gwasanaethau cefnogi cyn ysgol yr Awdurdod Lleol
  • staff sefydliadau ambarél

Sut i gymryd rhan

Rhaid i chi archebu lle i gymryd rhan yn yr hyfforddiant hwn.

Llenwch un ffurflen archebu ar gyfer bob unigolyn.

Archebwch le ar yr hyfforddiant Ymarfer sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn