Beth mae'r Cyngor yn ei wneud?
Beth yw Cyngor Sir Ddinbych?
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn Gyngor Sir sy’n cwmpasu ardal Sir Ddinbych yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Fel awdurdod unedol, mae’n gyfrifol am ddarparu bron i bob swyddogaeth llywodraeth leol yn yr ardal.
Beth mae'r Cyngor yn ei wneud?
Y gwasanaethau allweddol sy'n cael eu darparu gan y Cyngor yw:
- Tai Cyngor
- Gwasanaethau Addysg
- Cofrestru Etholiadol
- Iechyd yr Amgylchedd
- Cyfleusterau hamdden
- Llyfrgelloedd
- Cynllunio lleol
- Trafnidiaeth leol
- Parciau a mannau cyhoeddus
- Rheoleiddio busnesau lleol
- Cynnal a chadw ffyrdd a llwybrau troed
- Gwasanaethau cymdeithasol
- Gwastraff ac ailgylchu
Sut mae'r Cyngor yn cael ei redeg?
Mae'r gwaith o redeg y Cyngor o ddydd i ddydd a darparu ei wasanaethau yn cael ei wneud gan staff y Cyngor. Mae’r Cyngor yn cael ei rannu’n nifer o wahanol Wasanaethau, er enghraifftmae Gwastraff ac Ailgylchu a Phriffyrdd a Chynnal a Chadw yn ffurfio rhan o’r Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol. Mae pob gwasanaeth yn cael ei reoli gan Bennaeth Gwasanaeth sy’n gyfrifol am bob penderfyniad gweithredol o fewn eu gwasanaeth. Mae’r Penaethiaid Gwasanaeth yn adrodd i'r Prif Swyddog Gweithredol a Gyfarwyddwyr Corfforaethol, gyda'i gilydd mae'r rhain yn ffurfio'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth.
Mae 'aelodau etholedig' neu 'gynghorwyr' wedi cael eu hethol gan eu cymunedau i bennu a chraffu cyllideb y Cyngor, ei bolisïau a’i benderfyniadau strategol allweddol a chynrychioli buddiannau eu cymunedau. Disgwylir i Gynghorwyr fynychu cyfarfodydd y Cyngor llawn ac mae’n bosibl y cânt eu penodi i fod ar amryw o bwyllgorau eraill, er enghraifft, y Cabinet, Pwyllgorau Craffu neu’r Pwyllgor Cynllunio.
Byddwch yn gallu pleidleisio am eich Cynghorydd o leiaf unwaith bob pum mlynedd, pryd bynnag y caiff etholiad leol ei chynnal.