Strategaeth Sir Ddinbych yn Gweithio 2022 i 2027: Gweithio ein ffordd allan o dlodi

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Am fwy o wybodaeth am Sir Ddinbych Gweithio, ewch i www.sirddinbych.gov.uk/sir-ddinbych-yn-gweithio

Logo Sir Ddinbych yn Gweithio

Cyflwyniad

Yn fuan iawn ar ôl i mi gael fy ethol yn arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, mi wnaethais nodi fy mhrif flaenoriaethau, ac roedd mynd i’r afael â thlodi drwy dwf economaidd a chynyddu cyflogaeth yn brif thema. I mi, mae adfywiad economaidd yn dwf economaidd sydd yn gweithio i ni gyd, i bawb yn ein cymunedau a dyma pam bydd fy mriff yn cynnwys twf economaidd fel gyrrwr i fynd i’r afael â thlodi, anghydraddoldeb ac i fynd i’r afael ag amddifadedd.

Rydym angen sicrhau fod pobl ar draws y sir wedi’u paratoi i gymryd mantais o’r cyfleoedd a fydd yn cymryd mantais o’r cyfleoedd a fydd yn codi o’n buddsoddiad cyfalaf uchelgeisiol a rhaglenni cymorth i fusnesau. Dyma pam rwyf yn croesawu’r strategaeth newydd Sir Ddinbych Yn Gweithio sydd wedi’i ddiweddaru. Byddwn yn cefnogi pawb sydd yn gallu gweithio drwy helpu i fynd i’r afael â’u rhwystrau i gyflogaeth a datblygiad. Bydd yn rhoi cefnogaeth i bobl ifanc i gyflawni a ffynnu yn y farchnad swyddi bywiog yr ydym yn helpu i greu.

Ein gweledigaeth yw lleihau tlodi drwy alluogi unigolion i gael gafael ar rwydwaith o wasanaethau sy'n eu cefnogi ar eu taith tuag at gyflogaeth, yn ogystal ac i gadw eu swyddi a datblygu unwaith y maent mewn gwaith.

Mae dull Sir Ddinbych Yn Gweithio yn alinio gyda dull rhanbarthol a nodwyd gan y Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a Bargen Dwf Gogledd Cymru. Mae’n darparu ar yr un pryd â’n buddsoddiad cyfalaf drwy raglen Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, a fydd yn cymryd mantais o’r Gronfa Ffyniant Cyffredin a thryfalu gyda Chymru fwy gwyrdd, mwy teg a chryfach Llywodraeth Cymru; cynllun ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau.

Mae hyn yn golygu darparu gwasanaethau cymunedol lleol sy’n gweithio mewn partneriaeth â busnesau lleol a darparwyr cymorth Trydydd Sector, Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i ddod o hyd i ddatrysiadau ar y cyd sy’n bodloni anghenion unigolion a chymunedau.

Mae’n ymwneud â chryfhau’r rhwydweithiau sydd wedi’u datblygu rhwng partneriaid a sicrhau ei bod mor hawdd â phosib i ddinasyddion gael mynediad at gymorth.

Y nod yw sicrhau bod y gwaith yn gydnaws ag ymagwedd a gweledigaeth strategol drosfwaol ar gyfer datblygu a chreu cymunedau cryf yn Sir Ddinbych gyda ffocws llym ar drechu tlodi drwy gyflogaeth gynaliadwy.


Councillor Jason McLellan, Leader of the Council

Jason McLellan
Arweinydd y Cyngor

Yn ôl i'r brig

Ein theori newid Cylchred rhinweddol

Mae ein dull wedi seilio ar theori resymegol o fodel newid sydd yn cyflwyno cylchred rhinweddol sy’n dangos lle mae ein hymyriadau i wella cyflogadwyedd i gyfrannu cysyniad ehangach o dwf economaidd. Mae’r cynnydd hwn yn atgyfnerthu ar y cyd gyda thwf economaidd eu hunain yn agor cyfleoedd newydd ar gyfer twf cyflogaeth.

Drwy gael gwared ar rwystrau mae pobl yn eu hwynebu sydd wedi eu hatal rhag dod i waith a rhoi’r sgiliau maent eu hangen iddynt fodloni anghenion cyflogwyr, rydym yn cynyddu maint ac ansawdd y gronfa lafur sydd ar gael.

Drwy gynyddu’r nifer o bobl sydd wedi eu cyflogi, rydym yn cynyddu incymau a chynyddu gwariant yn yr economi leol. Mae hyn yn helpu busnesau i dyfu a chynnig cyfleoedd cyflogaeth bellach ar gyfer y dyfodol.

Drwy weithio gyda gweithwyr i’w helpu dangos swyddi gwag neu leoliadau gwaith a delir, rydym yn cynyddu’r galw am lafur.

Drwy helpu unigolion i ddod o hyd i gyfleoedd sydd yn fwyaf addas iddynt a drwy gynnig cefnogaeth cyn sgrinio i leoliadau gwaith, rydym yn sicrhau bod ymgeiswyr a chyflogwyr yn addas a bod y cyfleoedd yn gynaliadwy.

Yn ôl i'r brig

Pam bod ein hangen

Ar draws Sir Ddinbych, mae nifer o gymunedau, pobl a busnesau yn ffynnu a datblygu, ac yn gweithredu fel enghraifft nodedig i weddill Cymru, y DU a’r byd ehangach. Er hyn, mae problemau dwfn a pharhaus yn effeithio ar fywydau eraill ac yn effeithio ar siawns bywyd cenedlaethau iau ac yn y dyfodol.

Yn ôl i'r brig

Mae rhannau yn y Rhyl a Dinbych Uchaf

Sir Ddinbych lle mae cymunedau gyda hanes hir o anawsterau economaidd. Tra bo amddifadedd yn disgrifio ystod eang o broblemau i unigolion a theuluoedd gan gynnwys iechyd, diogelwch cymunedol, problemau tai, y parhad o lefelau eithaf uchel o ddiweithdra ac incwm isel, drwyddi draw mae’r cylchred economaidd uchel ac isel sydd wedi sicrhau bod y cymunedau hyn wedi aros yn y 10% o’r cymunedau fwyaf difreintiedig yng Nghymru.

Yn ôl i'r brig

Ergydion dal i ddod

Ers i’r ardaloedd hyn cael eu nodi y tro cyntaf yn y Mynegai Cymru o Amddifadedd yn 2005, mae amseroedd da a drwg wedi bod i economi lleol, Cymru a’r DU. Mae cydberthynas cryf rhwng perfformiad lleol a’r DU. Pan mae cyfraddau diweithdra wedi gostwng a safonau byw wedi cynyddu ar lefel y DU, mae ardaloedd difreintiedig Sir Ddinbych yn yr un modd wedi gweld gwelliannau. Fodd bynnag, mae’r sefyllfa gymharol (o’i gymharu ag ardaloedd eraill) o’n cymunedau fwyaf difreintiedig wedi bod yn eithaf cyson. Pan mae cyflyrau economaidd y DU wedi gwaethygu, mae’r cymunedau hyn yn benodol wedi cael eu heffeithio’n ddrwg.

Erbyn canol y 2000au, roedd y cymunedau a effeithiwyd wedi adfer yn sylweddol o’r pwynt isaf yn ystod tirwasgiad yn y 1990au cynnar. Ers hynny mae dirywiad economaidd ‘gwasgfa gredyd’ wedi annog diweithdra eto yn ystod 2010au cynnar, ac wedi dilyn cyfnod o welliant a amharwyd yn ystod cyfnod fwyaf ansicr o BREXIT. Bu i pandemig COVID-19 ddilyn hyn yn gyflym a gwelwyd diweithdra yn cynyddu’n gyflym eto. I ddechrau roedd adferiad yn dilyn y pandemig i weld yn gryf, ond mae bygythiad bellach o chwyddiant uchel a rhagolygon o ddirwasgiad.

Yn ôl i'r brig

Nid yw tlodi yn parchu unrhyw ffiniau

Mae’r materion strwythurol a nodwyd uchod yn ffocws amlwg o wasanaeth Sir Ddinbych yn Gweithio ac ymdrechion adfywio ehangach y cyngor. Fodd bynnag, rydym yn cynnig cymorth wedi’i deilwra i anghenion unigol i bobl sydd yn byw mewn unrhyw ardal yn y sir.

Nid yw tlodi yn parchu unrhyw ffiniau ac rydym yn adnabod unigolion, teuluoedd a chymunedau llai ar draws y sir sydd angen ein cymorth.

Yn ôl i'r brig

Ymgysylltu

Hyrwyddo: Cyflwyniad a Dyraniad

Mae Cynllun Cyfranogiad ac Ymgysylltu Sir Ddinbych yn Gweithio yn canolbwyntio ar ddod o hyd i’r rhai sydd angen cymorth cyflogadwyedd a sgiliau. Mae hyn yn cynnwys gweithio’n agos â grwpiau cymunedol sy’n gweithio gyda chyfranogwyr sydd o bosib ddim yn barod am waith eto.

Yn ôl i'r brig

Cymorth cyn cyflogaeth

Cynlluniau Gweithredu i Leihau neu Gael Gwared ar Rwystrau

Mae mentoriaid Sir Ddinbych yn Gweithio yn dechrau cefnogi cyfranogwyr i lunio cynlluniau gweithredu i fynd i’r afael â neu i fapio eu siwrnai i gyflogaeth. Yn dibynnu ar sefyllfaoedd unigolyn, gall hyn fod yn rhan o brosiectau cyn cyflogaeth neu gyflogadwyedd.

Yn ôl i'r brig

Profiad Gwaith / Uwchsgilio

Sgiliau / Cymwysterau, Gwirfoddoli a Phrofiad Gwaith

Yn y cam hwn, bydd pecyn wedi’i deilwra i anghenion unigolyn mewn lle. Gall gynnwys hyfforddiant wedi’i ddarparu gan Sir Ddinbych Yn Gweithio neu hyfforddiant gan ddarparwyr allanol wedi’i drefnu a’i ariannu drwy’r gwasanaeth. Efallai bydd lleoliad Cynllun WorkStart yn gallu cael ei drefnu gyda chyflogwr sector gyhoeddus neu fusnesau bach a chanolig neu drefnu cyfleoedd i wirfoddoli.

Yn ôl i'r brig

Mynediad i'r Farchnad Lafur

Chwilio am Swydd, Profiad Gwaith, Paru â Swydd

Yn y cam hwn bydd cyfranogwyr yn cael eu cefnogi i ddod o hyd i swyddi a phrofiadau yn y gweithle megis lleoliadau gyda thâl, interniaeth a phrentisiaeth.

Yn ôl i'r brig

Cefnogaeth mewn gwaith

Cynnal cyflogaeth / cynyddu lefelau sgiliau

Mae’r cam hwn yn ffocysu ar y rheiny sydd mewn gwaith ac yn bwriadu uwchsgilio neu ailhyfforddi. Bydd cefnogaeth yn helpu unigolion i lywio’r ystod eang o gyrsiau sydd ar gael a phecynnau ariannu i’r rheiny sydd yn eu gweddu orau.

Yn ogystal bydd cefnogaeth ar gael ar gyfer lles meddyliol a chorfforol pobl i sicrhau bod y rheiny sydd yn profi anawsterau yn gallu cynnal ei swyddi.

Yn ôl i'r brig

Gweithio gyda'n Gilydd

Mae nifer o astudiaethau sydd yn rhestru effaith diweithdra ar ganlyniadau iechyd1 a gwytnwch cymuned2.

Mae bod mewn cyflogaeth yn gwella siawns bywyd ein dinasyddion; mae’n gwella siawns bywyd mewn addysg ac yn lliniaru yn erbyn anghydraddoldeb iechyd. Bydd plant teuluoedd sy’n gweithio yn gwneud yn well o ran addysg hirdymor a siawns cyflogaeth. Mae gwaith yn darparu porth allan o dlodi, yn darparu hunan-barch ac yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i iechyd meddwl. Yn fyr mae cyflogadwyedd yn helpu cynghorau gyda’r galw ar ei wasanaethau oherwydd mae cyflogadwyedd yn helpu pobl leol.3

Mae’r Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru 2021 yn gosod ymrwymiad radical ac uchelgeisiol yn ystod y pum mlynedd nesaf i fynd i’r afael â’r heriau yr ydym yn eu hwynebu a gwella bywydau pobl ledled Cymru. Mae’n gosod cydweithio o flaen cystadleuaeth gan nodi "dyma Gymru lle nad oes neb yn cael eu dal yn ôl a does neb yn cael ei adael ar ôl."

  • Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
  • Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol
  • Gweithgor Cyflogadwyedd Gogledd Cymru
  • Grŵp Arweinwyr Cyflogadwyedd Awdurdod Lleol
  • Rhwydwaith Gyflogaeth Sir Ddinbych yn Gweithio (DEN)
  • Partneriaeth Ymgysylltu â Gweithwyr Sir Ddinbych (DEEP)
  • Grŵp Ymgysylltu â Chyfranogwyr

Fel gwasanaeth Awdurdod Lleol rydym yn gallu darparu perfformiad cryf a chynaliadwy mewn amgylchedd rheoli cadarn dan reoliadau llywodraethu caeth, ac yn gallu datblygu ffyrdd newydd ac arloesol o weithio mewn ffyrdd hyblyg gyda’n partneriaid a rhanddeiliaid ar lefel lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Mae dull strategol a seilwaith cadarn Sir Ddinbych yn Gweithio yn darparu rôl arweinyddiaeth gymunedol sydd ei angen ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau i gefnogi ar draws Sir Ddinbych. Mae ansicrwydd sylweddol ynglŷn â chyllid yn y dyfodol ar gyfer cefnogaeth cyflogadwyedd a hyfforddiant sgiliau.

Rydym angen creu amgylchedd sydd yn galluogi Adran Gwaith a Phensiynau, Gyrfa Cymru, colegau ac amryw o ddarparwyr gwasanaethau eraill i weithio gyda’i gilydd os ydym eisiau sicrhau bod yr holl bobl sydd angen y gefnogaeth i hyfforddiant/ cyflogadwyedd ac allan o dlodi yn cael eu darparu. Mae hyn yn cynnwys mabwysiadu dull 'Sir Ddinbych Yn Gweithio yn Gyntaf' i gydweithio ac ymgysylltu ar draws y cyngor.

Yn ôl i'r brig

Adeiladu o'ch cwmpas

Yn ôl Sefydliad Joseph Rowntree, achosion tlodi yw pethau sydd yn lleihau eich adnoddau neu’n cynyddu eich anghenion a chostau o’u bodloni. Gall rai o’r achosion hyn fod yn ganlyniadol, gan greu cylchred sydd yn eich dal. Mae digwyddiadau bywyd a chyfnodau o newid - mynd yn sâl, profedigaeth, colli swydd neu berthynas yn chwalu - yn sbardunau cyffredin i dlodi.

Yr achosion fwyaf o dlodi yw diweithdra a swyddi sy’n talu’n isel a diffyg rhagolygon a diogelwch (neu ddiffyg swyddi): nid yw gormod o swyddi yn darparu cyflog, rhagolygon da na diogelwch. Mae gan nifer o leoedd grynodiadau o’r swyddi hyn neu ddim digon o swyddi. Gall gyflog isel a diweithdra hefyd arwain at arbedion neu bensiwn annigonol. Yn ychwanegol i’r lefel isel o sgiliau neu addysg: gall bobl ifanc ac oedolion sydd heb y sgiliau a chymwysterau angenrheidiol ei gweld yn anodd cael swydd, yn arbennig un sy’n ddiogel, gyda rhagolygon da a thâl da.

Bydd Sir Ddinbych yn Gweithio yn darparu gwasanaeth hyblyg, o safon uchel gan weithio mewn partneriaeth â phrosiectau cyflogadwyedd eraill fel rhan o ymdriniaeth 'Sir Ddinbych yn Gweithio' integredig.

Rydym yn gweithio gyda’n preswylwyr yng nghanol ein cymunedau drwy eu helpu bob cam o’r ffordd gan ffocysu ar eu potensial ac nid eu problemau. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda hwy i ddeall eu hanghenion i adnabod eu cryfderau ac asedau, a dechrau adeiladu’r blociau sydd yn eu helpu i dynnu’r rhwystrau hynny a meddwl am eu dyfodol. Gyda’n gilydd rydym yn creu cynllun i gael gwared ar y rhwystrau ystyfnig; rydym yn eu helpu i feddwl am yr hyn sy’n gweithio’n dda a ddim mor dda yn eu bywyd, beth sydd o bwys iddynt ac ar eu cyfer, beth maent eisiau ei gyflawni a dod o hyd i’r hyn sy’n eu hatal rhan cyrraedd eu nod.

Mae ein dull hyblyg o ddylunio a darparu cefnogaeth cyflogadwyedd a sgiliau, wedi’i danategu gan ein model cyflogadwyedd sy’n ehangu, yn galluogi’r gwasanaeth yr ydym yn ei ddarparu i addasu i ymateb i anghenion/ blaenoriaethau lleol. Mae Sir Ddinbych Yn Gweithio yn helpu i leihau tlodi a sicrhau bod ein heconomi a chymunedau lleol yn ffynnu, i sicrhau ‘nad oes neb yn cael eu dal yn ôl a neb yn cael eu gadael ar ôl’ drwy:

  • Seilwaith cefnogaeth sgiliau a chyflogadwyedd cynaliadwy sydd yn cael ei reoli ar gyfer perfformiad VFM.
  • Mynediad mwy syml at gefnogaeth a chyfleoedd chyflogaeth sydd ar gael gan gydweithio gyda’n partneriaid.
  • Gwasanaethau sydd yn adlewyrchu ac yn ymatebol o’r angen
  • Cefnogi holl bobl ifanc a phobl ddiamddiffyn i gyflawni eu potensial.
  • Cefnogi cyflogwyr i recriwtio a chadw ystod eang o staff sy’n barod am waith gydag ystod o sgiliau a thalentau.
  • Sicrhau cyllid ar gyfer cefnogaeth tlodi yn y gwaith i gau’r bwlch sgiliau, caffael ar ardoll, cynyddu amrywiaeth a chynhwysiad, a strategaethau ar gyfer gweithlu sy’n heneiddio
  • Gofyn i’n cymunedau os oes unrhyw beth arall y gallwn ei wneud.

"Rydym yn gweithio gyda’n preswylwyr yng nghanol ein cymunedau drwy eu helpu bob cam o’r ffordd."


"Ers i ni ddechrau gweithio gyda Sir Ddinbych Yn Gweithio, mae’r profiad cyfan wedi bod yn wych. Byddem ni’n fwy na bodlon gweithio gyda nhw eto a derbyn mwy o staff trwy’r cynlluniau hyn." Becws Henllan

Cyfeirnodau

  1. The impact of unemployment on health: a review of the evidence - PubMed (nih.gov) (gwefan allanol)
  2. How Does Unemployment Affect Communities? (reference.com) (gwefan allanol)
  3. Work it Out, Creating Local Systems of Employability Support – The Association for Public Service Excellent (APSE) (gwefan allanol)

Cyllid

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio wedi derbyn £3,529,632 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn biler canolog i raglen Ffyniant Bro Llywodraeth y DU ac mae’n darparu £2.6 biliwn o arian ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU, drwy fuddsoddi mewn cymunedau a llefydd, cefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i GOV.UK (gwefan allanol).


Logo Rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy

Ariennir Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi’r rhai sydd dan yr anfantais fwyaf yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael gwaith.