Gwybodaeth am y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd
Gwybodaeth am ein gwasanaethau dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.
Casgliadau gwastraff ac ailgylchu
Casgliadau gwastraff cartrefi (ailgylchu, bwyd, NHA a gwastraff na ellir ei ailgylchu)
Dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd gwneir y newidiadau canlynol i gasgliadau gwastraff cartrefi:
- Bydd casgliadau gwastraff cartrefi yn digwydd ddydd Sadwrn 28 Rhagfyr 2024, yn lle dydd Mercher 25 Rhagfyr 2024
- Bydd casgliadau gwastraff cartrefi yn digwydd ddydd Sadwrn 4 Ionawr 2024, yn lle dydd Mercher 1 Ionawr 2025
Byddwn yn parhau i gasglu ar ddydd Iau, 26 Rhagfyr, a bydd yr holl gasgliadau gwastraff cartref eraill yn digwydd fel arfer. Cofiwch sicrhau bod eich cynwysyddion allan erbyn 6.30am.
Dyddiadau casglu sbwriel
Ganfod pryd fydd eich biniau’n cael eu casglu a lawrlwythwch eich calendr casgliadau bin.
Canllaw gwaredu ac ailgylchu
Canfod gwybodaeth am waredu neu ailgylchu’r eitemau canlynol:
Casgliadau gwastraff ac ailgylchu masnachol
Dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, gwneir y newidiadau canlynol i gasgliadau gwastraff ac ailgylchu masnachol:
- Bydd casgliadau gwastraff masnachol ar gyfer dydd Mercher 25 Rhagfyr 2024 yn cael eu casglu ddydd Sadwrn 28 Rhagfyr 2024
- Bydd casgliadau gwastraff masnachol ar gyfer dydd Mercher 1 Ionawr 2025 yn cael eu casglu ddydd Sadwrn 4 Ionawr 2025
Bydd pob casgliad gwastraff masnachol arall yn digwydd fel arfer.
Casgliadau eitemau swmpus
Gan fod CAD, y cwmni sy’n gweithredu’r gwasanaeth casgliadau eitemau swmpus ar ran y Cyngor, yn cau dros gyfnod y Nadolig, ni fydd unrhyw gasgliadau eitemau swmpus rhwng dydd Gwener 20 Rhagfyr 2024 a dydd Llun 6 Ionawr 2025. Bydd trigolion yn dal i allu neilltuo slot casglu yn ystod yr amser hwn a bydd casgliadau yn ailddechrau o 6 Ionawr 2025.
Yn ystod y cyfnod hwn, gall trigolion neilltuo lle i ymweld â’n parciau gwastraff ac ailgylchu.
Casgliadau Gwastraff Gardd
Dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, gwneir y newidiadau canlynol i gasgliadau gwastraff gardd:
- Bydd casgliadau gwastraff gardd yn digwydd ddydd Sadwrn 28 Rhagfyr 2024, yn lle dydd Mercher 25 Rhagfyr 2024
- Bydd casgliadau gwastraff gardd yn digwydd ddydd Sadwrn 4 Ionawr 2024, yn lle dydd Mercher 1 Ionawr 2025
Sicrhewch eich bod wedi rhoi eich bin allan erbyn 6:30am.
Coed Nadolig
Canfod gwybodaeth am gael gwared â choed Nadolig neu eu hailgylchu.
Parcio am ddim ar ôl 3pm
Gallwch barcio am ddim yn rhai o’n meysydd parcio ar ôl 3pm o 18 Tachwedd tan 31 Rhagfyr 2024.
Mwy am barcio am ddim ar ôl 3pm.
Llyfrgelloedd
Mae ein llyfrgell ar-lein yn agored drwy gydol cyfnod y Nadolig a gallwch ymuno â’r llyfrgell am ddim ar-lein.
Gallwch lawrlwytho e-lyfrau, e-lyfrau llafar, papurau newydd a chylchgronau am ddim fel aelod o’r llyfrgell. Gallwch wybod mwy am wasanaethau digidol a gwybodaeth mewn llyfrgelloedd.
Gallwch hefyd ymweld â’n hoffer ar gyfer darllenwyr i ddod o hyd i adnoddau a gwybodaeth ar-lein ar sut i’w defnyddio nhw.
Gwyliau ysgol
Darganfyddwch pryd mae ysgolion yn gorffen dros y Nadolig a phryd maen nhw’n ailddechrau fis Ionawr.
Oriau cau ac agor
Gwybodaeth oriau cau ac agor ein gwasanaethau ac adeiladau dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.