Cronfa Ffyniant Bro: Parth Cyhoeddus Stryd Fawr Prestatyn

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Cefndir y prosiect

Cefndir y prosiect

Rydym eisiau gwneud gwelliannau i sut mae Stryd Fawr Prestatyn yn edrych ac yn teimlo.

Pwyntiau allweddol

Pwyntiau allweddol

Rydym yn gobeithio y bydd y prosiect yn:

  1. Gwneud i ardaloedd cyhoeddus edrych a theimlo’n well
  2. Ei gwneud yn haws i gael mynediad at ganol y dref o leoliadau allweddol fel y parc manwerthu, yr orsaf drenau a’r orsaf fysiau
  3. Gwella arwyddion o gwmpas y dref fel y gall pobl ddod o hyd i’w ffordd yn haws
  4. Annog mwy o dwristiaeth a buddsoddiad yn y dref, ac annog pobl i gefnogi manwerthwyr annibynnol
Y sefyllfa bresennol

Y sefyllfa bresennol

  • Mae tîm prosiect bellach ar waith
  • Mae cronfa y prosiect ar waith i wella'r man cyhoeddus (gofod gweladwy) yn Stryd Fawr Prestatyn
  • Yr amserlen amcangyfrifedig ar gyfer cwblhau'r prosiect yw Ebrill 2027
  • Mae casglu gwybodaeth ar y safle, cynhaliwyd trafodaethau gyda thirfeddianwyr ac arbenigwyr technegol i ddeall beth allai fod yn bosibl ar safleoedd y prosiect ac mae arolygon ecolegol perthnasol wedi'u cynnal
  • Dechreuodd ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Ebrill 2025 i gael barn i fwydo i'r dyluniadau cychwynnol
Oriel

Oriel

Bydd y wybodaeth hon ar gael yn fuan.

Ymgynghori

Ymgynghori

Byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech gymryd rhan yn ein harolwg ymgynghori.

Rydym yn awyddus i glywed gan breswylwyr ac ymwelwyr Prestatyn am ba welliannau yr hoffech eu gweld yng nghanol y dref. Bydd yr ymatebion a dderbynnir i’r arolwg hwn yn helpu i lywio’r dyluniad cychwynnol.

Hoffem wybod:

  1. Sut ydych yn cael mynediad at ganol y dref
  2. Pa wasanaethau sy’n bwysig i chi
  3. A oes unrhyw beth y gallwn ni ei wneud a all eich annog chi i newid pa mor aml yr ydych yn dod, neu faint o amser yr ydych yn ei dreulio yng nghanol tref Prestatyn

Mae’n rhaid derbyn yr ymatebion erbyn 11 Mai 2025

Cwestiynau cyffredin

Cwestiynau cyffredin

Faint o arian mae Prestatyn wedi ei gael gan Lywodraeth y DU ar gyfer y prosiect hwn?

Mae ychydig dros £3 miliwn wedi ei roi i'r prosiect hwn i wella Stryd Fawr Prestatyn. Fodd bynnag, rhaid i'r swm hwn dalu holl gostau'r prosiect ac nid adeiladu yn unig.

Ar gyfer beth y rhoddwyd yr arian?

Ar gyfer gwelliannau parth cyhoeddus 960 metr Sgwâr ar Stryd Fawr Prestatyn.

A oes unrhyw ddyluniadau eto?

Na ddim hyd yn hyn. Rydym yn casglu adborth gan ystod o randdeiliaid i helpu i lywio'r dyluniad. Bydd adborth a dderbyniwyd o'n hymgynghoriad cyntaf hefyd yn helpu'r tîm dylunio i gwblhau'r gwaith hwn.

Rwyf wedi clywed eich bod ond yn siarad gyda grwpiau bychain o bobl; sut wyf yn ychwanegu fy safbwyntiau?

Cyfeiriwch at yr adran uchod i gael y wybodaeth ddiweddaraf..

Pan fydd dyluniadau yn barod ar gyfer y prosiect newydd hwn, a fydd ymgynghori pellach ar y cynigion?

Bydd ymatebion a dderbynnir i'n harolwg casglu gwybodaeth yn helpu i lywio dyluniadau cychwynnol. Edrychwn ymlaen at glywed safbwyntiau pobl. Mae’n bwysig i ni eich bod yn parhau i gymryd rhan drwy gydol y prosiect, felly byddwn yn gofyn am fwy o adborth ar unrhyw ddyluniadau eraill y byddwn yn eu datblygu.

Sut fyddwch yn rhoi gwybodaeth i bobl?

Bydd gwybodaeth am y prosiect wrth iddo esblygu ar gael ar wefan y Cyngor yn ogystal â thrwy’r dulliau canlynol:

  • Gwybodaeth yn y wasg leol.
  • Bydd sianeli cyfryngau cymdeithasol Sir Ddinbych eu diweddaru’n rheolaidd - dilynwch ein tudalennau Facebook (gwefan allanol) a X (Twitter gynt) (gwefan allanol).
  • Drwy ein rhestr bostio Balchder a'r Amgylchedd Naturiol: Y Rhyl, Prestatyn a Dinbych - i'w hychwanegu at y rhestr bostio os gwelwch yn dda, cofrestrwch ar ein gwefan.
  • Posteri mewn lleoliadau cymunedol allweddol i hyrwyddo ymgynghori lleol gan ein bod yn cydnabod nad yw pawb ar-lein.
  • Hyrwyddo drwy rwydweithiau cyfathrebu lleol ein partneriaid.

A fyddaf yn cael gweld beth mae pobl wedi ei ddweud?

Nid yw hon yn broses ymgynghori statudol felly nid oes yna ofyniad i’r Cyngor gyhoeddi ymatebion unigol. Fodd bynnag, bydd y Cyngor yn llunio adroddiadau ar ganfyddiadau ein hymgynghoriadau. Bydd y rhain ar gael yn gyhoeddus pan fyddant yn barod.

A fydd y gwaith a gynlluniwyd yn garbon niwtral neu hyd yn oed yn garbon bositif?

Gan nad ydym wedi dylunio’r prosiect eto, nid ydym yn gwybod beth fydd yr effaith carbon. Fodd bynnag, yn 2019, bu i’r Cyngor ddatgan Argyfwng Hinsawdd ac mae wedi gosod targedau uchelgeisiol i fod yn Ddi-Garbon erbyn 2030, mae mwy o wybodaeth ar ein gwefan. Felly bydd yr effaith carbon yn ystyriaeth allweddol wrth ddylunio a chyflawni’r prosiect.

Cysylltu â ni

Defnyddiwch ein ffurflen ymholiadau cyffredinol a dewiswch ‘Ariannu Ffyniant Bro’ fel y gwasanaeth perthnasol. Yn eich ymholiad, dywedwch wrthym pa brosiect y mae gennych ddiddordeb penodol ynddo a byddwn yn anfon y neges at y rheolwr prosiect perthnasol.