Y Gronfa Ffyniant Bro: Sgwâr Sant Pedr 

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Cefndir y Prosiect

Cefndir y Prosiect

Mae’r prosiect hwn yn rhan o’r cyllid Ffyniant Bro i ddarparu prosiectau a fydd yn diogelu lles, cymunedau gwledig a threftadaeth unigryw Rhuthun. Y nod yw gwella cysylltedd cerdded a beicio yn Rhuthun a’r cyffiniau ac ategu buddsoddiad mewn gweithgareddau i roi hwb i’r dreftadaeth a gwerth diwylliannol. Mae’r ymyriadau arfaethedig yn canolbwyntio ar wneud gwelliannau i’r parth cyhoeddus, ehangu’r posibiliadau ar gyfer cynnal digwyddiadau ac adfywio adeiladau a thirnodau hanesyddol i gefnogi hunaniaeth leol, hyrwyddo balchder mewn lle a rhoi hwb i ddelwedd y dref.

Mae’r cynigion ar gyfer Sgwâr Sant Pedr yn cynnwys:

  • Cael gwared â’r gylchfan yn y Sgwâr i greu parth hyblyg i gerddwyr y gellir ei ddefnyddio ar gyfer digwyddiadau a/neu ar gyfer seddau caffi ac ati.
  • Gwella’r cynnig teithio llesol rhwng ffordd gyswllt Rhuthun a chanol y dref drwy wneud Stryt y Farchnad yn unffordd i gerbydau, gan gadw llwybrau teithio llesol dwy ffordd.
Pwyntiau Allweddol

Pwyntiau Allweddol

Mae hwn yn brosiect newydd i ddarparu gwelliannau i Sgwâr Sant Pedr

Mae’r prosiect yn ategu adferiad tŵr y cloc yn Rhuthun a’r gwelliannau a fwriedir ar gyfer Parc Cae Ddôl

Disgwylir i’r contract adeiladu gael ei dendro’n fuan

Disgwylir i’r gwaith ddechrau ym mis Gorffennaf 2024

Disgwylir i’r prosiect gael ei gwblhau erbyn mis Mawrth 2026.

Y Sefyllfa Bresennol

Y Sefyllfa Bresennol

Mae’r dyluniadau drafft wedi eu datblygu ac mae ymarfer ymgysylltu â’r cyhoedd nawr ar y gweill.

Oriel

Oriel

Argraffiadau artist o Sgwâr Sant Pedr cynt ac wedyn:

Cynllun presennol Sgwâr Sant Pedr

Cynllun presennol Sgwâr Sant Pedr

Delwedd 3D wedi ei chynhyrchu â chyfrifiadur o’r cynllun arfaethedig ar gyfer Sgwâr Sant Pedr:

Cynllun arfaethedig ar gyfer Sgwâr Sant Pedr

Cynllun presennol Stryt y Farchnad rhwng Sgwâr Sant Pedr a’r fynedfa i faes parcio Stryt y Farchnad:

Cynllun presennol Stryt y Farchnad rhwng Sgwâr Sant Pedr a’r fynedfa i faes parcio Stryt y Farchnad

Mae dau ddewis posibl ar gyfer cynllun ffordd Stryt y Farchnad:

Dewis 1: (Stryd Anffurfiol):

Dewis 1: (Stryd Anffurfiol)

Dewis 2: Lôn Feicio Gwrthlif

Dewis 2: Lôn Feicio Gwrthlif

Ymgynghori

Ymgynghori

Mae’r ymgynghoriad wedi cau, diolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran.

Cawsom 400 o ymatebion sy’n cael eu hadolygu.

Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau Cyffredin

Pam y cynigir gwneud newidiadau i Sgwâr Sant Pedr a rhai o’r ffyrdd tuag ato?

Mae ‘Gweithgor Dyfodol Rhuthun’ Cyngor Tref Rhuthun wedi datblygu ac ymgynghori ar weledigaeth hirdymor ar gyfer Rhuthun, a defnyddiwyd hyn i ategu’r cais am gyllid o’r Gronfa Ffyniant Bro mewn perthynas â Sgwâr Sant Pedr.

Nodwyd yr amcanion canlynol yn rhan o’r weledigaeth ar gyfer canol y dref:

  • Annog gyrwyr i beidio â defnyddio’r dref fel llwybr trwodd, ac arafu cyflymder y traffig yng nghanol y dref
  • Cynnal mynediad i gerbydau a darpariaeth ar gyfer parcio yng nghanol y dref
  • Gwella mannau llwytho / gollwng / parcio i bobl anabl
  • Darparu mynediad lletach, mwy diogel, ar gyfer cerddwyr a defnyddwyr ar olwynion
  • Creu lle digon mawr i allu cynnal digwyddiadau cymunedol heb orfod cau unrhyw ffyrdd.

Pam ydych wedi cael gwared â’r gylchfan ac addasu cynllun y ffyrdd?

Yr ydym wedi cael gwared â’r gylchfan i wneud lle i gynnal digwyddiadau yng nghanol y dref, ac roedd gofyn ailddylunio llwybr y briffordd drwy ganol y dref i wneud hyn.

Nod cynllun newydd y ffyrdd yw bod o gymorth i’r rheiny sy’n defnyddio’r dref, a cheisio lleihau traffig trwodd.

Mae llwybr teithio llesol wedi ei gynnwys ar ran mwyaf serth Stryt y Farchnad, fel nad yw beicwyr yn teimlo dan bwysau gan gerbydau wrth deithio i fyny’r allt.

Mae Stryd y Ffynnon yn rhy gul ar gyfer traffig dwy ffordd a cherddwyr. Bydd ei gwneud yn stryd unffordd i draffig yn ei gwneud yn fwy diogel ar gyfer cerddwyr a cherbydau, a byddai cerbydau’n gallu parcio arni.

Byddai newidiadau i’r gyffordd ar Stryd Clwyd yn darparu mwy o le i gerbydau danfon nwyddau droi, ac yn darparu palmentydd lletach ar gyfer cerddwyr, a man croesi.

A ellid ystyried strydoedd eraill yn lle’r rheiny a gynigir, neu’n ogystal â hwy?

Mae gan Gyngor Sir Ddinbych swm penodol o gyllid ar gyfer y prosiect ac mae wedi ei gontractio i Lywodraeth y DU i gyflawni allbynnau’r cyllid.

Mae’r cynllun a gynigir wedi ystyried y weledigaeth ar gyfer canol y dref a bydd yn cyflawni allbynnau gofynnol y cyllid, sy’n cynnwys gwell ffyrdd ar gyfer beicio, gwell llwybrau ar gyfer cerddwyr, a bydd y man digwyddiadau’n creu ardal newydd o barth cyhoeddus.

Pam ydych wedi cyflwyno llwybr teithio llesol i Stryt y Farchnad, a pham y mae ar y rhan uchaf yn unig?

Yr uchelgais yn yr hirdymor yw darparu llwybr teithio llesol yr holl ffordd i fyny Stryt y Farchnad – o gylchfan Brieg i sgwâr y dref.

Yr ydym wedi defnyddio Cyllid Ffyniant Bro i gefnogi cynnwys rhan uchaf y llwybr i alluogi gwneud y cysylltiad i’r gwaith a gynigir ar gyfer y sgwâr, er mwyn osgoi tarfu yn y dyfodol.

Bydd y dull dylunio a’r defnydd cyson o ddeunyddiau yn rhan uchaf Stryt y Farchnad o gymorth i ddiffinio’r llwybr i gerddwyr i ganol y dref.

Cynhwysir rhan isaf y llwybr teithio llesol mewn cais yn y dyfodol am arian gan gynllun cyllid grant Teithio Llesol Llywodraeth Cymru maes o law.

Beth yw pwrpas y bwrdd arafu yn y ffordd?

Mae byrddau arafu yn cynorthwyo gyrwyr i wybod eu bod mewn ardal i gerddwyr ac yn eu hannog i arafu a bod yn fwy ymwybodol.

Gyda’r palmant is a ddangosir, mae’n darparu mynediad rhwydd i gerddwyr rhwng y man digwyddiadau ac ardal yr Hen Lys / Stryd y Ffynnon a Stryd y Castell.

A ydych yn cadw’r nifer presennol o ofodau parcio ceir yng nghanol y dref?

Ein bwriad yw cadw cynifer ag sy’n bosibl o’r lleoedd parcio presennol.

Credir bod olion canoloesol yn y dref. Sut fyddwch yn atal unrhyw amhariad neu ddifrod i arteffactau?

Mae Swyddog Cadwraeth Cyngor Sir Ddinbych a hanesydd lleol wedi rhoi gwybod i ni am bresenoldeb olion canoloesol. Adolygir y cynllun arfaethedig mewn perthynas â safleoedd tebygol o ddiddordeb hanesyddol, a chynhelir briff gwylio archaeolegol pan fydd gwaith cloddio’n digwydd yn yr ardaloedd hyn.

A fydd mynediad i ganol y dref yn cael ei gynnal ar gyfer busnesau yn ystod y gwaith?

Mae’n anochel y bydd rhywfaint o darfu yn ystod y cyfnod adeiladu. Yr ydym yn annog pob busnes i rannu eu safbwyntiau ar y cam cynnar hwn, fel bod modd i ni ystyried eu pryderon pan fyddwn yn adolygu’r broses o gyflwyno’r gwaith adeiladu fesul cam. Bydd hyn o gymorth i lywio’r ffordd y dylem gwblhau’r gwaith a’r cyfnodau rhybudd a’r cyfathrebu y mae angen i ni ei wneud â busnesau.

Sut fyddwch yn osgoi colli masnach? Efallai y bydd pobl yn dewis siopa yn rhywle arall os yw’n anodd cael mynediad i’r dref.

Dylunnir y gwaith adeiladu i sicrhau bod rhywfaint o fynediad i ganol y dref bob amser. Mae’n bosibl y bydd oedi o ganlyniad i’r rheolyddion angenrheidiol ar gyfer rheoli traffig, a chydnabyddir y gall hyn atal rhai pobl rhag defnyddio’r dref mor aml.

A fydd y prosiect yn digolledu busnesau am golli enillion?

Na, mae’r cyllid wedi ei sicrhau ar gyfer cyflawni’r prosiect a gynigir, ac nid oes digon o arian i ystyried na gweinyddu unrhyw gynllun digolledu.

Pryd fydd y gwaith yn dechrau ar y prosiect hwn?

Disgwylir i’r gwaith ddechrau ar y safle ym mis Medi 2025. Ni fydd unrhyw waith yn cael ei wneud cyn Gŵyl Rhuthun, a gynhelir ddiwedd mis Mehefin


Cysylltu â ni

Cysylltwch â ffyniantbro@sirddinbych.gov.uk gan nodi pa brosiect y mae gennych ddiddordeb penodol ynddo a byddwn yn anfon y neges at y rheolwr prosiect perthnasol.

Logo Wedi'i Yrru Gan Ffyniant Bro