Y Gronfa Ffyniant Bro: Parc Cae Ddôl

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Cefndir y Prosiect

Cefndir y Prosiect

Mae’r prosiect hwn yn rhan o’r cyllid Ffyniant Bro i ddarparu prosiectau a fydd yn diogelu lles, cymunedau gwledig a threftadaeth unigryw Rhuthun. Y nod yw gwella cysylltedd cerdded a beicio yn Rhuthun a’r cyffiniau ac ategu buddsoddiad mewn gweithgareddau i roi hwb i’r dreftadaeth a gwerth diwylliannol. Mae’r ymyriadau arfaethedig yn canolbwyntio ar wneud gwelliannau i’r parth cyhoeddus, ehangu’r cwmpas ar gyfer cynnal digwyddiadau ac adfywio adeiladau a thirnodau hanesyddol i gefnogi hunaniaeth leol, hyrwyddo balchder mewn lle a rhoi hwb i ddelwedd y dref.

Mae'r gwaith arfaethedig ar gyfer Parc Cae Ddôl a fydd yn cael ei gyflawni o dan y cynllun Ffyniant Bro yn cynnwys nifer o welliannau bach sydd wedi'u cynllunio i weithio'n gydlynol gyda gwelliannau arfaethedig eraill o ffynonellau ariannu eraill, nawr ac yn y dyfodol.

Mae gwaith arfaethedig i Barc Cae Ddôl yn y tymor byr yn cynnwys:

  • 480 metr o lwybr teithio llesol newydd drwy'r parc i hwyluso cerdded a beicio
  • Newid y bont ganolog dros yr afon
  • Trac pwmpio newydd. Mae trac pwmpio yn gyfleuster hamdden/chwaraeon ar gyfer offer chwaraeon ar olwynion gan gynnwys beiciau, sgwteri, esgidiau sglefrio ac ati sy’n galluogi defnyddwyr i ennill momentwm gyda symudiad ‘pwmpio’ (h.y. symud pwysau eu corff) yn hytrach na phedlo neu wthio eu hoffer o amgylch y trac. Bydd gan y trac dir anwastad gyda rampiau, cromliniau/troeon a thwmpathau.
  • Amnewid y maes chwarae plant presennol (mae hyn yn cael ei ddarparu o dan y Gronfa Ffyniant Gyffredin, nid y gronfa Ffyniant Bro)
Pwyntiau Allweddol

Pwyntiau Allweddol

Mae hwn yn brosiect newydd i gyflawni gwelliannau ym Mharc Cae Ddôl

Mae’r prosiect yn cyfannu adferiad i dŵr y cloc yn Rhuthun a’r gwelliannau a fwriedir ar gyfer Sgŵar Sant Pedr.

Disgwylir i'r prosiect gael ei gwblhau erbyn mis Mawrth 2026.

Y Sefyllfa Bresennol

Y Sefyllfa Bresennol

Mae’r dyluniadau drafft wedi eu datblygu ac mae ymarfer ymgysylltu â’r cyhoedd nawr ar y gweill.

Oriel

Oriel

Argraff arlunydd o Barc Cae Ddôl o’r awyr, gyda strwythurau a nodweddion ychwanegol yn eu lle:

Parc Cae Ddôl o'r awyr, gyda strwythurau a nodweddion ychwanegol yn eu lle

Yn ogystal â'r gwaith tymor byr arfaethedig fel rhan o'r Gronfa Ffyniant Bro, mae'r Cyngor wedi nodi nifer o welliannau eraill i Barc Cae Ddôl y gellid eu harchwilio yn y dyfodol.

Nid yw'r gwelliannau hyn wedi'u dylunio na'u costio'n llawn, ac ar hyn o bryd nid oes unrhyw ffrydiau ariannu ar gael i'r Cyngor wneud unrhyw waith pellach ar y cynigion hyn.

Mae’r rhain wedi’u datblygu’n ‘Uwchgynllun’ ar gyfer Parc Cae Ddôl. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i unrhyw waith a wneir ym Mharc Cae Ddôl fod yn gydnaws â syniadau a gweledigaeth yr uwchgynllun ac ni ddylai atal unrhyw waith rhag digwydd yn y dyfodol.

Mae ychwanegiadau arfaethedig i’r parc yn cynnwys:

  • Creu ardal ‘maes chwarae antur’
  • Creu ardaloedd plannu gwlyptir yn y parthau mwyaf tueddol o ddioddef llifogydd, i gynnal bywyd gwyllt lleol
  • Mannau eistedd a llochesi ychwanegol

Parc Cae Ddôl gyda'r gwelliannau tymor byr arfaethedig

Ymgynghori

Ymgynghori

Mae’r ymgynghoriad wedi cau, diolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran.

Cawsom 400 o ymatebion sy’n cael eu hadolygu.

Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau Cyffredin

Pam ydych chi’n gwneud newidiadau o fewn Cae Ddôl?

Roedd ‘Gweithgor Dyfodol Rhuthun’ o Gyngor Tref Rhuthun wedi datblygu ac ymgynghori ar weledigaeth hirdymor ar gyfer Rhuthun a oedd yn cynnwys ei fannau gwyrdd. Roedd y gwaith hwn yn llywio cais am gyllid Cronfa Ffyniant Bro mewn perthynas â Chae Ddôl.

A ydych am gyflawni popeth a awgrymwyd yn y gwaith cynharach a wnaed gan Weithgor Dyfodol Rhuthun o’r Cyngor Tref?

Na, nid oes yna ddigon o arian i wneud popeth.

Rydym wedi paratoi dau ddyluniad ar gyfer Cae Ddôl, ewch i’r adran Oriel.

Mae’r un cyntaf yn ymwneud â’r holl gyfleusterau a awgrymwyd ar gyfer Cae Ddôl ac mae wedi’i labelu yn ‘Weledigaeth Prif Gynllun Hirdymor’.

Mae’r ail un wedi’i labelu yn Brif Gynllun Cyflawni Cam 1 ac mae’n dangos beth a fwriedir ei gyflawni drwy’r cyllid Cronfa Ffyniant Bro.

Pam wnaethoch chi ddewis y cyfleusterau penodol hyn i’w cyflawni drwy’r Cyllid Ffyniant Bro?

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi llunio contract gyda Llywodraeth y DU ac mae wedi contractio allbynnau mae angen eu cyflawni.

Bydd y cynllun a ddewiswyd yn galluogi’r Cyngor i gyflawni yn erbyn yr allbynnau sy’n cynnwys llwybr beicio gwell, amwynderau gwell a rhannau o’r parc wedi’u tirlunio.

Mae’r Cyngor yn dymuno gwybod pa un a yw’r eitemau wedi’u cynnwys yn y Prif Gynllun Cyflawni Cam 1 yr hyn mae’r preswylwyr lleol eisiau ar gyfer y parc. Gallwch wneud hyn drwy gymryd rhan yn yr ymgynghoriad tan 12 Mai 2024. Mae manylion pellach ynglŷn â sut i rannu eich barn ar gael yma

Rwyf wedi sylwi ar gyfeiriad at gae chwarae cynhwysol i bawb ar Weledigaeth y Prif Gynllun Hirdymor. Beth yw hyn?

Bydd yr ardal chwarae presennol yn cael ei uwchraddio i ardal chwarae hygyrch a bydd yn cynnwys ystod o offer addas ar gyfer pob gallu.

Mae’r prosiect hwn, sy’n cael ei ariannu drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn cael ei ddatblygu gan Adran Briffyrdd Cyngor Sir Ddinbych a bydd yn cael ei gyflawni yn ystod yr haf 2024.

Yn dilyn sylw diweddar yn y wasg, pam ydych yn cynnwys gwelliannau i du allan y toiledau os oes yna amheuaeth am eu dyfodol?

Mae gan y prosiect allbwn i’w gyflawni mewn perthynas â gwelliannau i’r bloc toiledau. Gan na wnaed penderfyniadau eto mewn perthynas â thoiledau cyhoeddus, rydym wedi penderfynu bod angen cynnwys hyn o fewn y prosiect nes byd penderfyniad wedi cael ei wneud. Ar y pwynt hwnnw bydd yna eglurder a gallwn siarad gyda’r cyllidwyr os bydd angen. Gallwn gadarnhau y byddwn ond yn buddsoddi yn y toiledau os bydd y cyfleuster yn cael ei gynnal.

Oeddech chi’n ymwybodol bod Cae Ddôl yn rhan o Barc a Gerddi Hanesyddol Cofrestredig Castell Rhuthun?

Oeddwn. Rydym eisoes wedi cael trafodaethau cychwynnol gyda swyddog cadwraeth Cyngor Sir Ddinbych a Cadw, i sicrhau bod yr hyn a fwriedir yn ddatblygiad derbyniol o fewn y parc.

Sylwaf fod y llwybr teithio llesol yn ymddangos yn eithaf agos at y goeden dderwen fawr iawn ger y llyn. Oeddech chi’n ymwybodol fod yr holl goed yn Cae Ddôl yn cynnwys gorchymyn gwarchod coed?

Ydym, rydym yn ymwybodol o’r gorchymyn gwarchod coed ac rydym eisoes wedi trafod gyda swyddog coed Cyngor Sir Ddinbych mewn perthynas â’r cynigion ac yn arbennig y pellter rhwng y llwybr teithio llesol a’r goeden dderwen. Rydym yn ymwybodol o faint y parth gwarchod gwreiddiau a bydd y llwybr bwriedig wedi’i leoli mor bell oddi wrth y goeden â phosibl a bydd y fethodoleg adeiladu a fabwysiedir yn osgoi unrhyw ddifrod i’r gwreiddiau.

Sut fyddwch chi’n osgoi unrhyw niwed i ecoleg y parc?

Mae asesiad ecolegol cychwynnol wedi’i gynnal ac rydym yn ymwybodol o’r rhywogaethau sy’n bresennol. Bydd asesiad o’r effaith yn cael ei gynnal ar y gwaith arfaethedig yn ystod y cam dylunio manwl a bydd y dyluniad yn adlewyrchu’r canfyddiadau ac yn sicrhau nad oes unrhyw ddifrod yn cael ei achosi. Byddwn hefyd yn edrych am gyfleoedd i wella ecoleg y parc drwy’r gwaith a wneir.

Yn ystod y gaeaf a’r cyfnodau gwlyb, mae rhannau o’r parc naill ai’n socian dan draed neu dan ddŵr. A fydd y gwaith rydych yn ei wneud yn gwella hyn?

Na, mae’n bwysig bod ardaloedd o’r parc yn parhau’n wlyb a dan ddŵr yn ystod tywydd eithriadol gan fod hyn yn helpu i amddiffyn eiddo cyfagos.

A fydd y lefelau uwch o’r trac pwmpio bwriedig yn achosi unrhyw faterion mewn perthynas â llifogydd?

Rydym wedi cael trafodaethau cychwynnol gyda Chyfoeth Naturiol Cymru ac yn deall bod unrhyw lefelau uwch angen eu digolledu mewn rhannau eraill o’r parc. Byddai hyn yn cael ei adolygu yn ystod y cam dylunio manwl.

Yn yr haf mae’r afon bron yn sych ar adegau ac mae lefel y dŵr yn gostwng yn y llyn sy’n gallu edrych yn flêr. A fydd y gwaith bwriedig yn galluogi i’r lefelau o fewn y llyn gael eu cynnal.

Na, mae’r llyn yn cael ei lenwi o’r afon ar hyn o bryd ac nid ydym yn bwriadu gwneud unrhyw waith a fyddai’n newid llif y dŵr i’r llyn. Hyd yn oed pe bai’r gored yn cael ei gwneud yn uwch, a fyddai’n mynnu gwaith modelu hydrolig sylweddol, ni fyddai hyn yn sicrhau bod lefel y dŵr yn cael ei gynnal yn y llyn.

A ydych chi’n newid rhai o’r pontydd?

Y bont ganolog yn unig, gydag un sy’n fwy llydan gyda chanllaw gwell ac addas ar gyfer cerddwyr a beicwyr.


Cysylltu â ni

Cysylltwch â ffyniantbro@sirddinbych.gov.uk gan nodi pa brosiect y mae gennych ddiddordeb penodol ynddo a byddwn yn anfon y neges at y rheolwr prosiect perthnasol.

Logo Wedi'i Yrru Gan Ffyniant Bro