Rownd 1 Cronfa Ffyniant Bro: Cynigion prosiect llwyddiannus

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Fel rhan o rownd 1, roedd Cyngor Sir Ddinbych yn llwyddiannus yn eu cais ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar gyfer Etholaeth De Clwyd. Mae’r Gronfa Ffyniant Bro a ddyrannwyd i Sir Ddinbych yn £3.8miliwn a bydd o fudd i gymunedau Llangollen, Llantysilio, Corwen a’r ardaloedd cyfagos.

Rownd 1 Cronfa Ffyniant Bro: Cynigion prosiect llwyddiannus
Enw gweithgarwch y prosiectLleoliadDisgrifiad
Y Pedair Priffordd Fawr
(Cyngor Sir Ddinbych)
Llangollen Gwelliannau i Bedair Priffordd Fawr Llangollen: Camlas Llangollen, hen Reilffordd Rhiwabon i’r Bermo, yr Afon Dyfrdwy a’r A5 Ffordd Caergybi. Gan gynnwys gwella hygyrchedd, dehongliad ac arwyddion.
Plas Newydd
(Cyngor Sir Ddinbych)
Llangollen Gwella profiad ymwelwyr, gan gynnwys gwneud gwelliannau i’r tir.
Wenffrwd
(Cyngor Sir Ddinbych)
Llangollen Gwella cysylltiadau rhwng y dref a Gwarchodfa Natur Wenffrwd a’r Ganolfan Iechyd a’r gamlas, yn ogystal â gwneud gwelliannau i lwybrau cerdded a beicio o fewn y Warchodfa.
Rhaeadr y Bedol
(Cyngor Sir Ddinbych)
Llantysilio Gwella’r seilwaith twristiaid yn Rhaeadr y Bedol.
Canopi Platfform Rheilffordd
(Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen)
Corwen Gosod canopi, y gydran fwyaf gweladwy, ar blatfform gorsaf Corwen.
Seilwaith Canol y Dref
(Cyngor Sir Ddinbych a Cadwyn Adfywio)
Corwen
Maes Parcio Lôn Las
(Cyngor Sir Ddinbych)
Corwen Gwneud gwelliannau i’r maes parcio, gan gynnwys mannau gwefru Cerbydau Trydan, adnewyddu’r cyfleusterau cyhoeddus a gwell arwyddion.
Teithio Llesol Corwen i Gynwyd – Cam 1
(Cyngor Sir Ddinbych)
Corwen – Cam 1 Cam 1 llwybr teithio llesol (cerdded a beicio), o’r Parc Coffa yng Nghorwen at yr A5.

Mae rhagor o wybodaeth am Gronfa Ffyniant Bro (LUF) i'w gweld ar wefan GOV.UK.