Bloc Toiledau Maes Parcio Lôn Las Corwen (Llythyr at breswylwyr a busnesau)

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Annwyl Breswylydd / Fusnes,

Ynglŷn â: Bloc Toiledau Maes Parcio Lôn Las Corwen

Rydym yn ysgrifennu i’ch hysbysu y byddwn yn cau’r toiledau ym Maes Parcio Lôn Las yn fuan, gan ein bod yn ei adnewyddu i floc toiledau Dynion/Merched agored. 

Disgwylir i’r cyfnod gwaith fod o 8 Ebrill 2024 tan 12 Gorffennaf 2024. Byddwn yn gosod toiledau dros dro ar gyfer defnydd y cyhoedd heb unrhyw gost ar gyfer cyfnod y gwaith. Unwaith i’r toiledau gael eu hadnewyddu cânt eu cynnal gan Gyngor Tref Corwen.

Ymddiheurwn ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y bydd hyn yn ei achosi, fodd bynnag edrychwn ymlaen at ddarparu bloc toiledau wedi’i adnewyddu i’r gymuned, a fydd yn gwasanaethu anghenion preswylwyr a thwristiaid.

Yn ddiffuant

Mike Jones
Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch Ffyrdd

traffic@denbighshire.gov.uk

Tudalennau cysylltiedig

Cronfa Ffyniant Bro: Maes Parcio Lôn Las

Logo Wedi'i Yrru Gan Ffyniant Bro