Maes Parcio Lôn Las a Stryd Fawr Corwen: Gwelliannau Priffyrdd ac Amgylcheddol (Llythyr at breswylwyr a busnesau)

Perchennog / Preswylydd

Annwyl Syr / Fadam

Ynglŷn â: Maes Parcio Lôn Las a Stryd Fawr Corwen - Gwelliannau Priffyrdd ac Amgylcheddol

 

Mae gwaith cam dau i fod i ddechrau ddydd Mawrth 31 Hydref 2023 am chew wythnos ar Gynllun Gwella Priffyrdd Corwen. Mae’r cynllun yn cynnwys nifer o welliannau ar yr A5, o amgylch y Stryd Fawr a Maes Parcio Green Lane.

Bydd y gwaith yn cynnwys y prif eitemau a ganlyn.

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn ceisio adnewyddu ardal y briffordd o amgylch Stryd Fawr Corwen.

Mae gwaith y Stryd Fawr yn cynnwys yn bennaf:

  • Diweddaru/paentio a glanhau'r dodrefn stryd yn y Stryd Fawr h.y. arwyddbyst metel a rheiliau
  • Diweddaru holl ddraenio ACO
  • Gosod bolardiau, biniau a rheilen warchod cerddwyr
  • Adnewyddu meinciau
  • Glanhau ac ail-bwyntio’r slabiau palmant presennol
  • Gosod palmant newydd i gyd-fynd â Yorkstone presennol
  • Cael man dynodedig o fewn y Stryd Fawr ar gyfer coeden Nadolig i'w chodi bob blwyddyn

Mae gwaith Maes Parcio Green Lane yn cynnwys yn bennaf:

  • Adnewyddu'r bloc toiledau
  • Cilfan fysiau newydd a marciau ffordd gysylltiedig
  • Gwaith arwyddion

Y prif gontractwr ar gyfer y cynllun, a gymeradwywyd gan Sir Ddinbych ym mis Mai 2023 ar ôl ymgynghori â’r gymuned leol, yw Tom James Construction Ltd.

Disgwylir i’r gwaith gymryd hyd at chwe wythnos i’w gwblhau, bydd goleuadau traffig dros dro ar yr A5 Stryd y Bont a Green Lane yn ysbeidiol yn ystod gwaith palmant newydd a bydd croesfannau dros dro i gerddwyr yn cael eu defnyddio i leihau’r aflonyddwch.

Bydd y Cyngor yn gweithio'n agos gyda busnesau a thrigolion lleol drwy gydol y prosiect i sicrhau bod cyn lleied o darfu â phosibl a bod unrhyw bryderon neu faterion yn cael eu nodi ac yr eir i'r afael â hwy cyn gynted â phosibl drwy gydol y gwaith.

 

Yr eiddoch yn gywir

Emlyn Jones
Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad

 

Y manylion cyswllt allweddol pan fydd y gwaith yn dechrau bydd:

Cyngor Sir Ddinbych
laura.taylor@sirddinbych.gov.uk
01824 706000

Contractwr - Tom James Construction Services Ltd.
info@tjconstructionltd.cymru