Ffyniannus: Cefnogaeth Busnes Ar draws y Sir
Nod y thema 'Ffyniannus: Cefnogaeth Busnes Ar draws y Sir' yw cefnogi ein busnesau lleol i dyfu a ffynnu.
Ymyriadau, allbynnau a chanlyniadau
Mae cynnig i gyflawni cynllun grant o dan y thema o gefnogi prosiectau llai gan gymunedau a busnesau (o dan £250,000) yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ganol fis Chwefror. Yn ddibynnol ar gymeradwyaeth bydd manylion pellach ar sut i wneud cais am y cyllid hwn yn cael ei rannu yn fuan wedi hynny.
Gwariant cyfalaf a refeniw ar gyfer blynyddoedd 1, 2 a 3: Gwelliannau i Ganol y Dref a Thwristiaeth
Blwyddyn | Cyfalaf | Refeniw |
Blwyddyn 2 |
£48,000 |
£628,984 |
Blwyddyn 3 |
£480,000 |
£816,000 |
Ymyriadau
- W23: Cryfhau ecosystemau entrepreneuraidd lleol, a chefnogi busnesau ym mhob cam o’u datblygiad i ddechrau, cynnal, tyfu ac arloesi, yn cynnwys trwy rwydweithiau lleol.
- W24: Cyllid ar gyfer hybiau hyfforddi newydd, a gwelliannau i rai presennol, cynigion cymorth busnes, ‘unedau hybu’ ac ‘unedau sbarduno’ ar gyfer menter leol (yn cynnwys menter gymdeithasol) sy’n gallu cynorthwyo entrepreneuriaid a busnesau newydd trwy gamau cynnar datblygu a thwf trwy gynnig cyfuniad o wasanaethau, yn cynnwys rheoli cyfrifon, cyngor, adnoddau, hyfforddiant, hyfforddi, mentoriaeth a mynediad i leoedd gwaith.
- W26: Cymorth ar gyfer tyfu’r economi gymdeithasol leol, yn cynnwys busnesau cymunedol, cwmnïau cydweithredol a mentrau cymdeithasol.
- W30: Mesurau cymorth busnes i ysgogi twf mewn cyflogaeth, yn enwedig mewn ardaloedd â chyfraddau diweithdra uwch.
Allbynnau
Allbynnau: Gwelliannau i Ganol y Dref a Thwristiaeth
Allbynnau | Targed (gwerth rhifiadol) |
Nifer y mentrau sy’n cael cymorth ariannol ar wahân i grantiau (W23, W24) |
175 |
Nifer y mentrau sy’n cael grantiau (W23, W29, W30) |
150 |
Nifer yr entrepreneuriaid posibl a gafodd gymorth i fod yn barod am fenter (W23, W24) |
100 |
Nifer y mentrau sy’n cael cymorth nad yw’n gymorth ariannol (W26) |
100 |
Canlyniadau
Canlyniadau: Gwelliannau i Ganol y Dref a Thwristiaeth
Canlyniadau | Targed (gwerth rhifiadol) |
Swyddi a grëwyd o ganlyniad i gefnogaeth (W23, W30) |
50 |
Swyddi a ddiogelwyd o ganlyniad i gefnogaeth (W23) |
25 |
Nifer y mentrau newydd a grëwyd o ganlyniad i gefnogaeth (W23) |
25 |
Nifer y mentrau sy’n mabwysiadu cynnyrch neu wasanaethau newydd neu well (W23) |
10 |
Nifer y mentrau sy’n mabwysiadu technoleg neu brosesau newydd i’r cwmni (W23) |
15 |
Prosiectau
Y prosiectau ar gyfer y thema hon yw:
Darganfod mwy am prosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.