Prosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Gogledd Cymru – Egnïol, Iach a Hapus

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Arweinydd y Prosiect: Gogledd Cymru Actif

Mae’r prosiect hwn yn cynnwys mwy nag un awdurdod lleol.

Trosolwg o’r prosiect

Pobl leol yn aml iawn sy’n meddu ar yr allweddi i ddatgloi newidiadau cadarnhaol, hirdymor yn eu cymunedau. Ein nod yw gweithio’n lleol i gael gwell dealltwriaeth o’r heriau a’r rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu wrth geisio bod yn egnïol a mynd ati ar sail hynny i sicrhau "iechyd a lles da".

Byddwn yn arbrofi â dulliau newydd o weithio dan arweiniad y gymuned, a fydd yn gynaliadwy a dyfeisgar ac yn rhoi grym i bobl leol gyfranogi o benderfyniadau a chreu dulliau lleol i’w helpu i symud o gwmpas yn fwy.

Yn seiliedig ar ddata ynglŷn ag iechyd, lles ac anghydraddoldeb byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â’r Awdurdodau Lleol wrth adnabod cymunedau (dwy ymhob awdurdod) sydd â’r angen mwyaf am ein cymorth, er mwyn codi’r gwastad o safbwynt iechyd a lles y boblogaeth.

Wrth greu darlun lleol o’r asedau unigol a chymunedol byddwn yn meithrin cyswllt â phobl leol allweddol a phartneriaid ac yn dod â hwy ynghyd er mwyn rhoi grym i arweinwyr lleol, datblygu cynlluniau ar y cyd i leihau lefelau anweithgarwch a mynd i’r afael ag anghydraddoldeb o safbwynt iechyd a chymdeithas.

Diweddariad y prosiect

Mawrth 2024

Mae Actif Gogledd Cymru wedi gweithio gyda’r Cyngor i sicrhau penodiad dau o Gydlynwyr Prosiect - un mewn partneriaeth â Grŵp Cynefin/Hwb Dinbych a’r ail gyda Gwasanaethau Cefn Gwlad. Bydd hyn yn galluogi’r prosiect i dyfu capasiti er mwyn cydweithio gyda phartneriaid presennol a newydd, wrth ychwanegu gwerth i ffrydiau gwaith presennol yn y meysydd hyn.