Prosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Gwella’r Parth Cyhoeddus a Mannau Agored

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Arweinydd y Prosiect: Cyngor Sir Ddinbych

Trosolwg o’r prosiect

Nod y prosiect hwn yw gwella ardaloedd hamdden ledled y sir gyda ffocws ar y canlynol:

  • Gwelliannau i’r parth cyhoeddus yn Bastion Road, Prestatyn a Pharc Glan yr Afon, Llangollen gan gynnwys:
    • amnewid ac uwchraddio celfi stryd megis:
      • biniau
      • meinciau picnic
      • arwyddion seddi
    • gwelliannau amgylcheddol fel uwchraddio rheiliau a bolardiau dur a fydd hefyd yn gwella hygyrchedd i’r ardal
  • Adfywio ardaloedd hamdden yng Ngerddi Botanegol, Y Rhyl, gan gynnwys:
    • newid ffensys terfyn a’r giât ddiogelwch
    • gwelliannau amgylcheddol ac isadeiledd ym mhob rhan o’r parc

Diweddariad y prosiect

Mawrth 2024

Yn anffodus, oherwydd y tywydd gwael yn yr wythnosau diwethaf, bu rhywfaint oedi wrth weithredu rhai o’r prosiectau hyn.  Dyma’r sefyllfa sydd ohoni:

  • Gwella Man Agored Parc Glan yr Afon, Llangollen – cynhaliwyd cyfarfod adolygu ar 03/04/24 gyda’r nod o lunio rhestr o ddymuniadau er mwyn pennu eu costau a phenderfynu’r rhaglen waith.
  • Gwella Man Agored Arcêd Waves, Prestatyn – dechreuodd y gwaith ar 22/02/24 ac mae bron wedi gorffen.
  • Gwella Gerddi Botaneg y Rhyl – dechreuodd y gwaith ar 04/03/23 ac mae’n dod yn ei flaen yn dda. Mae’r llwybrau resin yn cael eu gosod yn araf bach gan nad oes modd gwneud y gwaith pan mae’n bwrw glaw.