Prosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Cymunedau a Natur - Croeso Cynaliadwy i Ymwelwyr
![Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU](/cy/delweddau/cymunedau-a-byw/datblygu-cymunedol/cronfa-codir-gwastad/logos/funded-by-uk-government.png)
Arweinydd y Prosiect: Cyngor Sir Ddinbych
Trosolwg o’r prosiect
Bydd y prosiect hwn yn darparu Ceidwaid mewn nifer o safleoedd ymwelwyr allweddol ledled Sir Ddinbych mewn ymateb i gynnydd sylweddol mewn ymwelwyr yn yr ardaloedd hyn.
Bydd y ceidwaid yn darparu cyngor ac arweiniad cadarnhaol i ymwelwyr yn ogystal â helpu i leihau tagfeydd ac effeithiau negyddol niferoedd uchel o ymwelwyr ar y gymuned leol a gwella profiad ymwelwyr.
Bydd y prosiect hefyd yn datblygu a hyfforddi Ceidwaid gwirfoddol a fydd yn cyfrannu at groesawu ymwelwyr mewn safleoedd allweddol a darparu help a chymorth i ymwelwyr.
![Logo Wedi'i Yrru Gan Ffyniant Bro](/cy/delweddau/cymunedau-a-byw/datblygu-cymunedol/cronfa-codir-gwastad/logo-wedii-yrru-gan-ffyniant-bro.png)