Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: cefndir

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth y DU yn Rhagfyr 2022 bod cynllun Buddsoddi Rhanbarthol Gogledd Cymru ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin wedi’i gymeradwyo.

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn cymryd lle’r cyllid yr oedd y Cyngor yn ei dderbyn gan y Gronfa Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd yn wreiddiol.

Mae £25.6 miliwn wedi’i glustnodi ar gyfer Cyngor Sir Ddinbych dros y tair blynedd nesaf i’w fuddsoddi. Mae £21.2 miliwn o'r cyllid hwn yn gyllid craidd a £4.4 miliwn ohono ar gyfer rhaglen 'luosi' genedlaethol.

Cynllun buddsoddi

Mae cynllun buddsoddi wedi cael ei gyflwyno i Lywodraeth y DU ar 1 Awst 2022.  Mae’r themâu wnaeth godi o Cynllun Corfforaethol Cyngor 2022-2027 wedi helpu i ddatblygu’r cynllun buddsoddi a’r targedau gan weithio at ddarparu cyflogaeth deg a chyfleoedd gwaith da i bawb yn ogystal â chreu a datblygu llefydd a chymunedau cynaliadwy  y gellir ymfalchïo ynddyn nhw.

Bydd y cynllun yn ystyried tair thema’r gronfa fel y’u nodir gan y Llywodraeth:

  • Cymunedau a lleoedd
  • Busnesau lleol
  • Pobl a Sgiliau

Wrth ddatblygu’r cynllun rydym hefyd yn ystyriol o amcanion y gronfa a osodwyd gan y llywodraeth:

  • Rhoi hwb i gynhyrchiant, cyflogau, swyddi a safonau byw
  • Lledaenu cyfleoedd a gwella gwasanaethau cyhoeddus
  • Adfer synnwyr o gymuned, balchder lleol a pherthyn
  • Grymuso arweinwyr lleol a chymunedau

I ddatblygu ein cynllun buddsoddi lleol byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â chynghorwyr, Aelodau Seneddol a budd-ddeiliaid lleol, yn cynnwys busnesau a thrigolion.

Y rhanbarth ehangach

Bydd y cynllun buddsoddi - wrth iddo gael ei ysgrifennu ar lefel ddarparu Sir Ddinbych - hefyd yn cyd-fynd â chynllun buddsoddi rhanbarthol ac yn nodi sut y byddwn yn gweithio gydag awdurdodau cyfagos i rannu dysgu ac arferion gorau ac i nodi meysydd ar gyfer cydweithio lle gellir rhoi mwy o fudd i drigolion ar draws ardal ehangach.  

Yr awdurdodau cyfagos yr ydym yn gweithio gyda nhw yw:

  • Cyngor Gwynedd
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
  • Cyngor Sir y Fflint
  • Cyngor Sir Ynys Môn
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam