Cyfle Sinema, Promenâd y Gorllewin, y Rhyl LL18 1HB

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn chwilio am weithredwr sinema sydd â’r cymwysterau addas fel partner tenant i reoli cyfleuster aml-sgrîn gweithredol ar Bromenâd y Gorllewin yn y Rhyl.

Sinema

Mae gan y sinema bum sgrin sydd wedi'i ffitio'n llawn gyda system taflunio digidol ac mae wedi'i lleoli mewn cyrchfan boblogaidd i dwristiaid yng Ngogledd Cymru.

Bwriad y Cyngor, fel perchennog yr adeilad a'r safle, yw cynnal trafodaethau cadarnhaol gyda phartïon sydd â diddordeb i sicrhau gweithredwr addas fel Tenant Partner yn y tymor hir.

Gellir dod o hyd i'r pecyn Mynegi Diddordeb, gan gynnwys manylion ar sut i gyflwyno'ch diddordeb, trwy fynd i'r ddolen isod.

Cyfle Sinema Gwybodaeth am Ddatganiad o Ddiddordeb (PDF, 6.61MB)

Dylai unrhyw un sydd â diddordeb yrru ebost i gwasanaeth.eiddo@sirddinbych.gov.uk am gopïau o’r Atodiadau a’r Holiadur y cyfeirir atynt yn y llyfryn. Dylid nodi’r canlynol yn glir ar ymholiadau: Cyfle Sinema, Promenâd Gorllewin y Rhyl LL18 1HB At sylw’r Rheolwr Prisio ac Ystadau.

Dylid cyflwyno Datganiadau o Ddiddordeb gan gynnwys yr Holiadur erbyn canol dydd (12.00pm) dydd Llun 31 Mawrth 2025.