Crynodeb adfywio tref Rhuddlan
Mae’r dudalen yn darparu gwybodaeth am brosiectau sydd wedi cael eu cynllunio ar gyfer Rhuddlan yn ogystal â phrosiectau sydd wedi cael eu cwblhau yn y blynyddoedd diwethaf.
Mae hefyd yn cynnwys prosiectau adnewyddu sylweddol mewn ardaloedd cyfagos sy’n gallu cael effaith ar y dref.
Cyflwyniad i Ruddlan
Mae Rhuddlan yn dref fechan sy’n edrych dros afon Clwyd yng ngogledd Sir Ddinbych.
Amcangyfrifir bod y boblogaeth breswylwyr ar gyfer yr ardal yn oddeutu 4,000 o bobl.
Mae Rhuddlan yn adnabyddus am adfeilion y Castell, a adeiladwyd gan Frenin Edward y Cyntaf yn y 1200au. Cyn esgyniad Brenin Edward y Cyntaf, roedd Rhuddlan yn sedd y llywodraeth a Phrifddinas Gwynedd.
Mae stryd fawr fechan yn gwasanaethu’r boblogaeth leol yn dda, gydag amrywiaeth o siopau annibynnol, gwasanaethau a thafarndai.
Prosiectau adfywio
Dewiswch un o’r canlynol i ddarganfod mwy am y prosiectau adfywio ar gyfer Rhuddlan.
Prosiectau wedi’u cwblhau
Prosiectau adfywio Rhuddlan wedi’u cwblhau
Mae’r canlynol yn brosiectau adfywio sydd wedi cael eu cwblhau yn Rhuddlan ers 2018.
Hwb Rhuddlan (Coed y Brain gynt)
Trosolwg o’r prosiect: Prynu ac ailddatblygu’r adeilad gyda storfa a chyfleusterau priodol, i’w ddefnyddio fel canolbwynt cymunedol gan grwpiau lleol.
Cyllid: Symiau Gohiriedig a Banc Burbo.
Uwchgynllun Teithio Llesol Rhuddlan
Trosolwg o’r prosiect: Creu Uwchgynllun Teithio Llesol Rhuddlan.
Cyllid: Cronfa Teithio Llesol.
Prosiectau presennol
Prosiectau adfywio presennol yn Rhuddlan
Mae’r prosiectau canlynol wedi sicrhau cyllid ac un ai’n cael eu hadeiladu neu’n cael eu datblygu yn barod i’w hadeiladu.
Estyniad ac Ailwampio Ysgol Y Castell
Trosolwg o’r prosiect: Estyniad i Ysgol Y Castell. Mae cymeradwyaeth cynllunio wedi’i dderbyn a’r cam nesaf fydd penodi contractwr.
Cyllid: Cyllid Adran 106 / Cyngor Sir Ddinbych.
Gwerth y prosiect: £800,000
Cynllun Teithio Llesol Blaenoriaeth 1
Trosolwg o’r prosiect: Ar ôl cwblhau’r Uwchgynllun rydym bellach yn datblygu’r cynllun ‘Blaenoriaeth 1’, sy’n cynnwys cyfres o welliannau teithio llesol / diogelwch y ffyrdd yng nghyffiniau Ysgol Y Castell. Mae’r prosiect yn y cam dylunio amlinellol.
Cyllid: Cronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru
Terfynau amser: 31 Mawrth 2026
Prosiectau’r dyfodol
Prosiectau adfywio Rhuddlan ar gyfer y dyfodol
Dydi’r prosiectau canlynol heb sicrhau cyllid eto ond mae rhywfaint o waith dichonoldeb, briff y prosiect a’r dyluniad cysyniadol wedi cael ei wneud.
Cynlluniau Teithio Llesol
Trosolwg o’r prosiect: Adolygu’r llwybr Teithio Llesol o gwmpas cylchedd y Warchodfa Natur.
Service: Teithio Llesol Cyngor Sir Ddinbych
Syniadau Prosiect
Syniadau ar gyfer prosiect adfywio Rhuddlan
Syniad Prosiect yw awgrym ar y cam hwn heb unrhyw friff prosiect diffiniedig a lle nad oes unrhyw waith dichonoldeb wedi’i wneud.
Datblygu Amgueddfa Rhuddlan
Trosolwg o’r prosiect: O Restr Hir y Grŵp Ardal Aelodau ar gyfer Ymgynghoriad Cronfa Ffyniant Bro.
Dyddiad adolygu diwethaf
Cafodd yr wybodaeth hon ei diweddaru diwethaf ym mis Tachwedd 2024.