Crynodeb adfywio dinas Llanelwy
Mae’r dudalen yn darparu gwybodaeth am brosiectau sydd wedi cael eu cynllunio ar gyfer Llanelwy yn ogystal â phrosiectau sydd wedi cael eu cwblhau yn y blynyddoedd diwethaf.
Mae hefyd yn cynnwys prosiectau adnewyddu sylweddol mewn ardaloedd cyfagos sy’n gallu cael effaith ar y dinas.
Cyflwyniad i Lanelwy
Llanelwy yw’r ail ddinas leiaf yn y DU, a’r unig ddinas yn Sir Ddinbych.
Amcangyfrifir bod y boblogaeth breswylwyr ar gyfer yr ardal yn oddeutu 3,500 o bobl.
Mae Llanelwy yn adnabyddus am ei Chadeirlan gyda phensaernïaeth o’r 13 ganrif. Mae’r Gadeirlan yn weladwy ac yn hygyrch o’r stryd fawr.
Dros y degawdau diwethaf, mae’r ddinas fechan wedi ffynnu, gydag agoriad yr A55 yn yr 1970au ac yn fwy diweddar gydag adeiladu’r Parc Busnes sydd wedi gweld buddsoddiad cenedlaethol a rhyngwladol.
Mae’n stryd fawr fechan gyda nifer o eiddo gwag a gall deimlo’n brysur iawn gyda thraffig ffyrdd.
Prosiectau adfywio
Dewiswch un o’r canlynol i ddarganfod mwy am y prosiectau adfywio ar gyfer Llanelwy.
Prosiectau presennol
Prosiectau adfywio presennol yn Llanelwy
Mae’r prosiectau canlynol wedi sicrhau cyllid ac un ai’n cael eu hadeiladu neu’n cael eu datblygu yn barod i’w hadeiladu.>/p>
Gwelliannau i Barc Gwledig Bodelwyddan
Trosolwg o’r prosiect: Plannu coetir newydd, coed a dôl blodau gwyllt. Llwybrau mynediad newydd, maes parcio, toiledau, gwelliannau ecolegol a thirlunio. Uwchraddio’r lle chwarae a phrofiad y ffosydd.
Cyllid: Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU ac eraill.
Gwerth y prosiect: £1,000,000
Terfynau amser: Rhagfyr 2024
Prosiectau’r dyfodol
Prosiectau adfywio Llanelwy ar gyfer y dyfodol
Dydi’r prosiectau canlynol heb sicrhau cyllid eto ond mae rhywfaint o waith dichonoldeb, briff y prosiect a’r dyluniad cysyniadol wedi cael ei wneud.
Pont Llannerch
Trosolwg o’r prosiect: Disodli Pont Llannerch.
Syniadau Prosiect
Syniadau ar gyfer prosiect adfywio Llanelwy
Syniad Prosiect yw awgrym ar y cam hwn heb unrhyw friff prosiect diffiniedig a lle nad oes unrhyw waith dichonoldeb wedi’i wneud.
Llanelwy - Gwelliannau i’r Parth Cyhoeddus
Trosolwg o’r prosiect: O Restr Hir y Grŵp Ardal Aelodau ar gyfer Ymgynghoriad Cronfa Ffyniant Bro y DU.
Dyddiad adolygu diwethaf
Cafodd yr wybodaeth hon ei diweddaru diwethaf ym mis Tachwedd 2024.