Mis Mawrth Menter: Y Gymraeg mewn Busnes
Ymunwch â ni ar gyfer gweminar Y Gymraeg mewn Busnes i edrych ar y pynciau canlynol:
- Buddion Dwyieithrwydd: Edrychwch ar sut gall defnyddio’r Gymraeg roi hwb i ymgysylltu â chwsmeriaid, gwella ffyddlondeb brand a chreu hunaniaeth unigryw ar gyfer eich busnes.
- Deall Adnoddau Cefnogi: Sefydliadau sydd ar gael i helpu, gwasanaethau cyfieithu sydd ar gael a chyfleoedd hyfforddiant sydd ar gael i’ch helpu i feithrin hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg.
- Enghreifftiau a syniadau ymarferol: O arwyddion a chyfryngau cymdeithasol i wasanaeth i gwsmeriaid a deunyddiau marchnata gan gynnwys straeon llwyddiant gan fusnesau sy’n elwa eisoes o arferion dwyieithog.
Ar gyfer pwy mae’r gweminar?
Mae gweminar Y Gymraeg mewn Busnes ar gyfer perchnogion busnes/gweithwyr sydd am ddefnyddio mwy o’r Gymraeg yn eu busnes.
Sut i gymryd rhan
Cynhelir y gweminar hwn drwy Microsoft Teams o 10am tan 11am ar Dydd Iau 13 Mawrth 2025.
Dewch i ddarganfod mwy am Microsoft Teams (gwefan allanol).
Archebu lle
Bydd angen i chi archebu lle os hoffech chi fynychu gweminar Y Gymraeg mewn Busnes.
Archebu lle ar weminar Y Gymraeg mewn Busnes