Rhoi gwybod am fater iechyd a diogelwch yn y gweithle
Os ydych chi’n pryderu am fater iechyd a diogelwch mewn gweithle, yn dibynnu ar fath y gweithle, mae’n rhaid i chi gysylltu â’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE).
Pryd i gysylltu â ni
Fe allwch chi gysylltu â ni am y mathau canlynol o safleoedd::
- swyddfeydd (ac eithrio swyddfeydd y llywodraeth)
- siopau
- gwestai
- tai bwyta
- safleoedd hamdden
- ysgolion meithrin a grwpiau chwarae
- tafarndai a chlybiau
- amgueddfeydd (eiddo preifat)
- mannau addoli
- llety gwarchod a chartrefi gofal
Pa bryd i gysylltu â’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn gyfrifol am orfodi iechyd a diogelwch yn y gweithleoedd isod:
- ffatrïoedd
- ffermydd
- safleoedd adeiladu
- sefydliadau niwclear
- cloddfeydd
- ysgolion a cholegau
- ffeiriau
- systemau nwy, trydan a dŵr
- ysbytai a chartrefi nyrsio
- safleoedd llywodraeth ganolog a llywodraeth leol
- sefydliadau alltraeth
Fe allwch chi gyflwyno cwyn i'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar-lein (gwefan allanol).