Cofrestrwch er mwyn cyflenwi i’r Cyngor
Rydym wedi cyflwyno system electronig er mwyn archebu neu holi am ddyfynbrisiau neu dendrau am unrhyw nwyddau, gwasanaeth neu waith yr ydym yn eu prynu sydd yn werth mwy na £10,000 (ac o dan y trothwy hwn mewn rhai achosion). Mae hyn yn golygu y bydd angen i chi gofrestru ar y Porth Cyflenwyr PROACTIS er mwyn gallu cyflenwi i ni, a bydd rhaid i'ch ymateb i'n cais ni am ddyfynbris neu dendr gael ei gyflwyno drwy’r system electronig.
Os ydych eisoes wedi cofrestru ar y Porth Proactis yna nid oes angen i chi wneud dim byd pellach a dylech ddechrau cael hysbysiadau am gyfleoedd contract Cyngor Sir Ddinbych. Os nad ydych wedi cofrestru eto, bydd angen i chi wneud hynny ar y ddolen isod.
Cofrestru gyda PROACTIS (gwefan allanol)
Rydym hefyd yn argymell yn fawr eich bod yn cofrestru ar GwerthwchiGymru, sef y wefan Gaffael i Gymru sy'n cynnwys yr holl gyfleoedd contract sy'n cael eu hysbysebu’n eang a sy’n uwch ac is na throthwy’r Undeb Ewropeaidd. Bydd cyfleoedd Tendr a Hysbysiadau Dyfarnu Contract yn cael eu Cyhoeddi ar GwerthwchiGymru ac felly mae’n bwysig eich bod yn cofrestru ar GwerthwchiGymru yn ogystal â Proactis os ydych yn dymuno cyflenwi Cyngor Sir Ddinbych. Mae cofrestru gyda Proactis a GwerthwchiGymru yn rhad ac am ddim.
Cofrestrwch ar GwerthwchiGymru (gwefan allanol)