Mae’n Arolwg Busnes yn ein cynorthwyo i ddeall y problemau mae busnesau yn Sir Ddinbych yn eu hwynebu a dod o hyd i ffyrdd y gallwn ni helpu.
Arolwg Busnes 2021
Cynhaliwyd Arolwg Busnes 2021 ar-lein a thros y ffôn rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2021. Cafwyd 421 o ymatebion, sef dros 10% o’r busnesau sydd wedi’u cofrestru yn Sir Ddinbych.
Dyma grynodeb o’r canfyddiadau.
Canol Trefi
Roedd 90.5% o’r busnesau sydd wedi’u lleoli o fewn canol tref yn Sir Ddinbych yn fodlon ar y canol tref hwnnw fel lle i fasnachu.
Cysylltedd Digidol
Roedd 98% o’r ymatebwyr yn defnyddio’r rhyngrwyd ar gyfer eu busnes. Y sianeli mwyaf poblogaidd i hyrwyddo eu busnes ar-lein oedd Facebook a Google Listings a’u gwefannau eu hunain.
Gofynnwyd i’r busnesau a oes ganddynt signal ffôn symudol digonol, ac roedd 88.6% yn fodlon ar y signal.
Gofynnwyd hefyd pa ddulliau maent yn eu defnyddio i hyrwyddo eu busnes. Darparwyd yr ymateb canlynol:
- Ar lafar: 95%
- Facebook: 88%
- Hysbysebu ar Google 77%
- Gwefan eu hunain: 70%
Effaith Covid-19 ar fusnesau
Gofynnwyd i’r busnesau sut cawsant eu heffeithio’n ariannol yn ystod pandemig Covid-19:
- Dywedodd dros eu hanner bod sefyllfa ariannol eu busnes wedi aros yr un fath
- Dywedodd 39.7% bod y pandemig wedi cael effaith negyddol ar eu cyllid
- Dywedodd 5.2% bod pethau wedi bod yn dda iddynt yn ystod y pandemig
I’r rheiny a ddywedodd fod y pandemig wedi cael effaith negyddol, y prif broblemau oedd:
- Gorfod cau eu busnes yn gyfan gwbl neu’n rhannol yn ystod y cyfnodau clo
- Llai o fasnach, archebion ac ati
- Llif arian is
Ffyrlo / Cynllun Cadw Swyddi
Gofynnwyd i’r busnesau a oeddynt wedi defnyddio’r cynllun ffyrlo / cadw swyddi:
- Dywedodd 290 o fusnesau nad oeddynt wedi defnyddio'r cynllun
- Dywedodd 131 o fusnesau eu bod wedi defnyddio’r cynllun
Dileu swyddi
Gofynnwyd i’r busnesau a fu’n rhaid iddynt ddiswyddo gweithwyr.
- Dywedodd 388 o fusnesau na fu’n rhaid iddynt ddiswyddo unrhyw weithiwr
- Dywedodd 33 o fusnesau y bu’n rhaid iddynt ddiswyddo gweithwyr
Brexit
Pan ofynnwyd iddynt a oedd Brexit wedi effeithio ar eu busnes dywedodd dau draean nad oedd Brexit wedi cael unrhyw effaith (279) a dywedodd 142 ei fod wedi cael effaith.
I’r rheiny a oedd wedi’u heffeithio gan Brexit, gofynnwyd iddynt fanylu ar hynny. O’r 142 busnes a affeithiwyd arnynt, dywedodd 123 (86.6%) mai’r effaith fwyaf oedd oedi yn y gadwyn gyflenwi neu oedi yn y gallu i ddanfon nwyddau i gwsmeriaid dramor.
Heriau i fusnesau
Roedd dau draean o’r busnesau yn bwriadu lleihau costau sefydlog yn ystod y flwyddyn nesaf. Dywedodd bron i chwarter o’r busnesau eu bod yn chwilio am gwsmeriaid newydd neu’n edrych i mewn i fuddsoddi mewn cyfarpar newydd yn ystod yr un cyfnod.
Cymorth i fusnesau
Y ffynhonnell fwyaf cyffredin o gymorth i fusnesau yn ystod y pandemig oedd:
- CThEM 57.5%
- Llywodraeth y DU 54.8%
- Llywodraeth Cymru 53.4%
Banc Datblygu Cymru a dderbyniodd y ganran isaf o ymatebion (2.7%).
Gwarchod y Cyhoedd
Gofynnwyd i’r busnesau a oeddynt wedi bod mewn cysylltiad â gwasanaethau Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.
- Dywedodd 387 o fusnesau (91.9%) nad oeddynt wedi bod mewn cysylltiad â’r gwasanaeth hwn
- Dywedodd 34 o fusnesau (8.1%) eu bod wedi cysylltu â’r gwasanaeth hwn
Pan ofynnwyd iddynt a oedd y gwasanaeth wedi bod o ddefnydd iddynt, dywedodd 30 bod y gwasanaeth wedi bod yn fuddiol.
Newid Hinsawdd
Gofynnwyd i fusnesau nodi unrhyw newid maent wedi’i wneud i helpu i leihau newid hinsawdd a/neu i baratoi ar gyfer ei effaith. Roedd yr ymateb yn cynnwys:
- Ailgylchu mwy
- Adolygu llwybrau teithio
- Darparu hyfforddiant i staff ar ailgylchu
- Annog gweithwyr i rannu ceir a beicio i’r gwaith
- Derbyn statws ‘dim plastig’
- Lleihau wythnos waith staff i 4 diwrnod
- Dewis cynnyrch ecogyfeillgar pan fo’n bosibl
- Defnyddio llai o drydan wrth olchi
- Rhoi dulliau newydd ar waith i ddefnyddio meddalwedd digidol
- Defnyddio mwy o ddeunyddiau ecogyfeillgar
- Newid dulliau cludo os yw’r isadeiledd ar gyfer trydan ar gael yn rhwydd
- Gosod system wresogi biomas