Beth ddylwn i ei wneud â chwyn?
Gallwch fel arfer roi chwyn o’ch gardd yn eich bin gwastraff gardd gwyrdd neu fynd â nhw i’r Parc Ailgylchu fel gwastraff gardd (am ddim).
Mae rhai mathau o chwyn estron yn ymledol ac yn niweidiol i’r amgylchedd. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Tafol y cŵn
- Llysiau’r gingroen
- Ysgall y maes
- Tafol crych
- Efwr enfawr
- Jac y neidiwr
- Canclwm Japan
- Marchysgall
Peidiwch â rhoi’r rhain yn eich bin gwastraff gardd. Cysylltwch â chontractwr gwastraff arbenigol.