Gwiriadau diogelwch tân

Gall tân ddechrau’n hawdd iawn a gall ledaenu’n frawychus o gyflym. Mewn achos o dân, deialwch 999 a gofynnwch am y frigâd dân.

Larymau mwg

Y lle gorau i osod larwm mwg yw ar y nenfwd, mor agos i ganol yr ystafell ac sy’n bosib. Dylid gosod y larwm mwg o leiaf 30 centimedr i ffwrdd o unrhyw olau neu wal. Peidiwch â gosod larymau mwg yn y gegin na’r ystafell ymolchi lle gallant gael eu sbarduno’n ddamweiniol. Sicrhewch fod gennych o leiaf un larwm mwg ar gyfer bob lefel. Mae’r cyntedd a phen y grisiau leoliadau perffaith. Profwch eich larwm unwaith yr wythnos. Newidiwch y batri unwaith y flwyddyn (os nad ydyw’n larwm 10 mlynedd). Newidiwch eich uned larwm mwg bob 10 mlynedd.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru'n (gwefan allanol) cynnig larymau mwg am ddim i breswylwyr lleol. Fe wnân nhw ddarparu’r larwm fwg, ei gosod a chynnal gwiriad diogelwch tân yn eich cartref, am ddim.

Cyngor

  • Ceisiwch ddarganfod dau lwybr allan o bob ystafell. Cymerwch ychydig funudau i ‘gerdded’ y llwybrau gyda’ch teulu
  • Cadwch eich llwybrau dianc yn glir o rwystrau
  • Sicrhewch eich bod yn gwybod ble y cedwir allweddi’r drws a’r ffenestri
  • Sicrhewch fod pawb yn gallu defnyddio allweddi a chloeon
  • Peidiwch â gadael eich teledu neu eitemau tebyg mewn cyflwr segur (standby)
  • Caewch bob drws gyda’r nos. Mae hyn yn arafu lledaeniad y tân
  • Peidiwch fyth â gadael cannwyll yn llosgi
  • Cliriwch unrhyw storfeyd

Yn ystod tân

  • Ewch allan - Dewch a phawb ynghyd ac ewch allan. Os oes llawer o fwg, dylech gropian ar hyn y llawr ble mae’r aer yn lanach
  • Arhoswch allan - Peidiwch â dychwelyd i mewn i’r tŷ, dim hyd yn oed i nôl eitemau gwerthfawr neu anifeiliaid anwes
  • Galwch allan - Deialwch 999 a gofynnwch am y Frigâd Dan
  • Rhybuddiwch bawb a gwaeddwch i ddeffro pawb; peidiwch ag edrych am y tân
  • Teimlwch ddrysau gyda chefn eich llaw cyn eu hagor. Os yw’n teimlo’n gynnes, peidiwch â’i agor
  • Peidiwch â defnyddio lifftiau yn ystod tân
  • Stopiwch - Disgynnwch - Rholiwch: Pe baech dillad yn mynd ar dân, byddai rhedeg yn cynyddu’r fflamau ac yn galluogi’r tân i ledaenu ar draws eich corff, gan achosi llosgiadau gwaeth. Pan fo fflamau ar eich dillad, stopiwch yn eich unfan, disgynnwch i’r llawr, gorchuddiwch eich wyneb â’ch dwylo a rholiwch yn nôl a blaen nes bo’r fflamau’n diffodd

Cewch fwy o wybodaeth thrwy ymweld â gwefan gwasanaeth tân Gogledd Cymru (gwefan allanol)