Gwasanaeth Seicoleg Addysg
Mae Seicoleg Addysg yn ein helpu ni ac eraill i ddeall sut mae plant yn datblygu ac yn dysgu yn ogystal â sut maen nhw’n meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn.
Mae Seicolegwyr Addysg yn gweithio gyda phlant yn y blynyddoedd cynnar a phlant ysgol (0-19 oed) ac yn cynnig cefnogaeth i ysgolion ac i deuluoedd.
Pam fyddai fy mhlentyn yn cael ei gyfeirio at Seicolegydd Addysg?
Gellir cyfeirio plant a phobl ifanc at y gwasanaeth Seicoleg Addysg am lawer o resymau gwahanol. Cyn cynnwys Seicolegydd Addysg, bydd yr ysgol yn trafod unrhyw bryderon ynglŷn â sut mae’r plentyn yn datblygu, yn dysgu neu’n ymddwyn gyda'r rhieni.
Pan nad yw ysgolion yn deall anghenion y plentyn yn llawn neu pan fo pryder ynglŷn â’u datblygiad neu’r cynnydd y maent yn ei wneud, gellir ystyried gwneud cais am wasanaeth Seicolegydd Addysgol os cafwyd y caniatâd priodol.
Gyda phwy ydym ni'n gweithio?
- Mae gwaith Seicolegydd Addysg yn cynnwys:
- gwaith asesu/ymgynghori unigol gyda phlant a phobl ifanc 0-19 oed,
- helpu athrawon i gynllunio rhaglenni ymyrraeth;
- gweithio gyda grwpiau o blant a phobl ifanc;
- gweithio gyda rhieni neu ofalwyr a gydag oedolion sy'n gofalu am blant a phobl ifanc ac yn eu haddysgu;
- hyfforddiant arbenigol ar gyfer athrawon;
- gwaith ysgol gyfan / systemig; ac
- ymchwil a gwerthuso.
Sut i gael mynediad at y gwasanaeth
Mae gan bob ysgol fynediad at seicolegydd addysg neilltuedig sy’n ymweld ag ysgolion ac yn trefnu’r ymweliadau ymlaen llaw. Gall rhieni gael mynediad at y gwasanaeth Seicolegwyr Addysg trwy drafod gydag ysgol eu plentyn / y Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig.
Mae ein holl Seicolegwyr Addysg:
- yn meddu ar radd mewn Seicoleg a gydnabyddir gan Gymdeithas Seicolegol Prydain;
- wedi cael o leiaf dwy flynedd o brofiad o weithio gyda phlant ar ôl graddio, ac mae’r rhan fwyaf yn athrawon cymwys;
- yn meddu ar gymhwyster proffesiynol mewn Seicoleg Addysg naill ai ar lefel Gradd Feistr neu Ddoethuriaeth; ac
- wedi'u cofrestru gyda Chyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal.
Cyswllt y Gwasanaeth: Audrey Ostanek, Seicolegydd Addysg Arweiniol
Ffôn: 01824 708064
E-bost
Drwy'r post:
Gwasanaeth Seicoleg Addysg
Lefel 3
Swyddfeydd y Cyngor
Neuadd y Sir
Ffordd Wynnstay
Rhuthun
LL15 YN