Cludiant am ddim i’r coleg
Bydd angen i chi wneud cais yn uniongyrchol i’r coleg ar gyfer cludiant am ddim i'r coleg.
Gallwn ddarparu cludiant am ddim i fan casglu os nad oes llwybr cerdded diogel, ond dylech wneud cais i’r coleg yn gyntaf a byddent hwythau yn cysylltu â ni i wneud trefniadau.
Coleg Cambria
Darganfod rhagor am gludiant am ddim i Goleg Cambria (gwefan allanol)
Coleg Llandrillo
Darganfod rhagor am gludiant am ddim i Goleg Llandrillo (gwefan allanol)
Beth i'w wneud os nad oes llwybr cerdded diogel at fan codi
Gallwn ddarparu cludiant am ddim i fan codi os nad oes llwybr cerdded diogel.
Wrth asesu a yw llwybr cerdded yn ddiogel ai peidio, byddem yn ystyried:
- Troedffyrdd
- Cyflymder Traffig
- Damweiniau ymysg Cerddwyr
- Goleuadau Stryd
Gweler ein Polisi Cludiant I Ddysgwyr am fwy o wybodaeth.
Polisi cludiant i ddysgwyr (PDF, 898KB)
Er mwyn cael eu hystyried ar gyfer cludiant am ddim i fan codi, rhaid i ddisgyblion fod yn:
- iau nag 19 oed ar 1 Medi pan fyddant yn dechrau astudio
- astudio’n llawn amser
Sut i wneud cais am gludiant am ddim i fan codi
Gwneud cais am gludiant am ddim i fan codi os nad oes llwybr diogel
Ar ôl gwneud cais
Byddwn yn cysylltu â chi ynglŷn â chanlyniad eich cais o fewn 15 diwrnod gwaith. Mae’r 15 diwrnod hwn yn cyfeirio at wirio cymhwysedd ac ymateb, yn hytrach na phryd fydd cludiant yn cychwyn.
Mewn rhai achosion bydd angen i ni asesu’r llwybr er mwyn gweld os gallwn ddarparu cludiant, allai olygu y bydd yn cymryd mwy o amser i ni ddarparu penderfyniad ar eich cais.
Ceisiadau llwyddiannus
Os yw eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn cysylltu â chi er mwyn cadarnhau pryd bydd cludiant am ddim i fan codi yn cychwyn.
Ceisiadau aflwyddiannus
Byddwch yn gadael i chi wybod os yw eich cais yn aflwyddiannus a rhoi’r rhesymau dros y penderfyniad hwn. Does dim hawl i apelio os ydych yn cael eich gwrthod, gan nad yw addysg coleg yn statudol.