Mae pob ysgol yn Sir Ddinbych yn darparu cinio ysgol. Mae cinio ysgol ysgolion cynradd â phris penodol ond mae ysgolion uwchradd â phrisiau gwahanol ar gyfer prydau bwyd gwahanol.
Prydau Ysgol am Ddim Cyffredinol i Ysgolion Cynradd
I helpu â chostau byw cynyddol, rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau y bydd pob disgybl cynradd yn cael cynnig prydau ysgol am ddim erbyn 2024 drwy’r cynllun Prydau Ysgol am Ddim Cyffredinol i Ysgolion Cynradd.
Mae hwn yn wahanol i’r cynllun Prydau Ysgol am Ddim sydd ar gael i bobl sy’n derbyn budd-daliadau penodol.
Os ydych yn gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim oherwydd eich bod yn cael budd-dal cymwys, rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais am Brydau Ysgol am Ddim gan y byddwch hefyd yn gymwys am y Grant Hanfodion Ysgol.
Fe all eich plentyn chi gael cinio ysgol am ddim os ydych chi’n derbyn unrhyw un o’r budd-daliadau canlynol:
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
- Credyd Pensiwn; Credyd Gwarantedig
- Treth Credyd Plant (ond nid Credyd Treth Gwaith) gydag incwm blynyddol llai na £16,190
- Cymorth o dan Adran VI o Ddeddf Lloches a Mewnfudo 1999
- Credyd Cynhwysol - O 1 Ebrill 2019, i fod yn gymwys am brydau ysgol am ddim trwy dderbyn Credyd Cynhwysol, ni ddylai’ch enillion net blynyddol fod dros £7,400.
Mwy o wybodaeth am budd-daliadau di-dreth a buddion trethadwy (gwefan allanol).
Nid oes modd i blentyn maeth dderbyn cinio ysgol am ddim. Mae rhieni maeth eisoes yn cael lwfans i edrych ar ôl y plentyn.
Sut i hawlio cinio ysgol am ddim
Blwyddyn Ysgol 2023/2024
Y dyddiad cau i wneud cais am cinio ysgol am ddim ar gyfer blwyddyn ysgol 2023/2024 oedd 31 Mai 2024.
Blwyddyn Ysgol 2024/2025
Nid ydym yn derbyn ceisiadau ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024/2025 ar hyn o bryd. Mae gwneud cais am cinio ysgol am ddim i ddisgybl sy'n mynd i ysgol ystod blwyddyn ysgol 2024/2025 yn agor o 1 Gorffennaf 2024.
Newid ysgolion
Bydd angen i chi roi gwybod i ni os yw eich plentyn yn gadael neu’n newid ysgol.
Dylech lenwi ffurflen gais prydau ysgol am ddim newydd os yw’ch plentyn wedi symud i ysgol arall yn Sir Ddinbych neu cysylltwch â ni i ganslo cinio ysgol am ddim
Gwybodaeth gan Awdurdodau Lleol eraill