Egwyddorion Cynhwysiant ar gyfer Darpariaeth Dysgu Ychwanegol

Mae Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021 (12:44) yn nodi sut mae rhaid i awdurdodau lleol, (mewn ymgynghoriad gydag ysgolion maent yn eu cynnal ac unrhyw bersonau eraill maent yn eu hystyried yn briodol), sefydlu a chyhoeddi set o egwyddorion y byddant yn eu defnyddio tra’n penderfynu a ydyw’n rhesymol i ysgol sicrhau Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol (DDdY) sydd ei angen ar ddisgyblion neu a ddylai’r awdurdod wneud hynny. 

Dylai egwyddorion ymwneud â:

  • Y graddau a’r cyfnod y byddai angen cyngor gan arbenigwyr allanol y byddai’n afresymol i’r ysgol ei drefnu;
  • Y cyfarpar sy’n debygol o fod yn afresymol i’r ysgol ei ddarparu;
  • Dwysedd a hyd y gefnogaeth a graddfa ymgysylltiad mewnol staff (gan gynnwys y Cydlynydd ADY) yn yr ysgol sydd yn debygol o fod yn afresymol i ysgol ei ddarparu.

Ethos

Mae ymgynnwys yn hawl sylfaenol a dylid amcanu i groesawu pawb, beth bynnag eu hil, oedran, rhywedd, anabledd, credoau crefyddol a diwylliannol a chyfeiriadedd rhywiol.

Dylai ysgol gynhwysol wneud i bawb deimlo’u bod yn cael eu cynnwys a’u cefnogi ym mha bynnag amgylchedd y maent ynddo.  Mae hynny’n cynnwys rhoi sylw arbennig i’r ddarpariaeth ar gyfer gwahanol grwpiau o ddysgwyr yn yr ysgol a’r hyn y maent yn ei gyflawni, yn ogystal ag unrhyw ddysgwyr sydd mewn perygl o gael eu dadrithio a’u gwahardd.

Ni all ysgol neu ddosbarth cynhwysol lwyddo ond pan mae’r holl ddysgwyr yn teimlo’u bod wir yn rhan o gymuned yr ysgol. Yr unig ffordd o sicrhau hynny yw cael trafodaeth agored a gonest ynglŷn â gwahaniaethau, a deall a pharchu pobl o bob gallu a chefndir. Mewn amgylchedd cynhwysol teimla pawb eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.

Mae ysgol a dosbarth cynhwysol yn seiliedig ar y cysyniad y gall yr holl ddysgwyr gyfranogi’n llawn yn eu dosbarthiadau a chymuned leol yr ysgol.

lant a phobl ifanc, gan gynnwys y rhai hynny ag Anghenion Dysgu Ychwanegol

Caiff yr holl blant a phobl ifanc eu gwerthfawrogi fel unigolion a darperir cefnogaeth deimladwy gyda’u hamryw anghenion. Credwn fod pob plentyn yn derbyn cwricwlwm eang, cytbwys a gwahaniaethol gan sicrhau gwelliant mewn hunan-barch a hyder a bod ymagwedd gadarnhaol yn datblygu. Mae hyn yn cyd-fynd â Phedwar Diben y Cwricwlwm i Gymru.

Rydym yn ymrwymo i gynnwys dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a dysgwyr sy’n wynebu rhwystrau byrdymor yn llwyddiannus. Yn ein hysgolion mae pob athro’n addysgu’r holl ddysgwyr, gan gynnwys y rhai hynny ag ADY, a phlant a phobl ifanc ag anghenion cymdeithasol, emosiynol ac o ran eu hiechyd meddwl.

Ein nod yw hyrwyddo a chynnal agwedd ysgol gyfan at les gan gydnabod y cysylltiadau cryf rhwng lles a’r canlyniadau i’n plant a’n pobl ifanc.

Mae pob plentyn yn gyfartal, yn unigryw ac yn cael ei werthfawrogi. Ein nod yw darparu amgylchedd lle mae’r holl ddysgwyr yn teimlo’n ddiogel ac yn medru ffynnu. Byddwn yn ymateb i unigolion mewn ffyrdd sy’n ystyried eu profiadau amrywiol mewn bywyd a’u hanghenion penodol.

Rydym yn ymrwymo i ddarparu addysg sy’n galluogi’r holl ddysgwyr i wneud cynnydd fel bod modd iddynt gyflawni’r canlyniadau gorau a dod yn unigolion hyderus sy’n byw bywydau gwerth chweil, a thyfu’n oedolion yn llwyddiannus.

Rydym yn ymrwymo i hyrwyddo addysg sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a darparu hynny i’r holl blant a phobl ifanc, gan roi sylw i’r hyn sydd o bwys i’r plentyn neu unigolyn ifanc a’r hyn sy’n bwysig ar eu cyfer.

Rydym yn ymrwymo i hyrwyddo a chefnogi ysgolion wrth ddiogelu hawliau’r plentyn yn unol â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.

Cefnogi ysgolion

Bydd yr awdurdod lleol yn hyrwyddo a chefnogi ysgolion er mwyn:

  • Datblygu darpariaeth ysgol gyfan ar gyfer plant a phobl ifanc ymhob maes lle mae anghenion
  • Ystyried barn, dymuniadau a theimladau plant a phobl ifanc a sicrhau eu bod yn cyfranogi’n llawn lle bynnag y bo modd
  • Cydnabod barn rhieni/gofalwyr er mwyn sicrhau eu bod yn ymwneud yn llawn â’r drefn benderfynu
  • Sicrhau proses eglur ar gyfer adnabod plant a phobl ifanc, gan gynnwys y rhai hynny ag ADY, eu hasesu, cynllunio a darparu ar eu cyfer a’u hadolygu, gan eu rhoi hwy a’u rhieni ynghanol popeth
  • Darparu cwricwlwm sy’n eang a chytbwys yn unol â’r Cwricwlwm i Gymru ac sy’n ymgysylltu â phob plentyn a pherson ifanc ar bob lefel ac yn hyrwyddo diwylliant cynhwysol o ddysgu
  • Sicrhau darpariaeth gyfartal i’r holl blant a phobl ifanc, gan gynnwys y rhai hynny ag ADY ac eraill
  • Galluogi plant a phobl ifanc, gan gynnwys y rhai hynny ag ADY, i gyflawni eu potensial
  • Rhoi cyngor a chymorth i’r holl staff sy’n gweithio â phlant a phobl ifanc, gan gynnwys y rhai hynny ag ADY

Partneriaeth â theuluoedd

Mae dysgwyr yn ganolog i bopeth a wnawn a byddwn yn cydweithio â theuluoedd i gyflawni’r canlyniadau gorau i’r dysgwyr.

Mae Sir Ddinbych yn ymrwymo i sefydlu a chynnal perthnasau gwaith da â theuluoedd yr holl ddysgwyr ac yn cydnabod mor bwysig yw’r bartneriaeth rhwng y cartref, yr ysgol a’r awdurdod lleol. Dylid rhoi gwybod i rieni’n gyson am gynnydd y dysgwyr a’u hannog i chwarae rhan weithredol yn y dysgu a gweithio at y targedau a bennwyd. Os oes gan rieni bryderon am eu plentyn dylent eu trafod yn gyntaf â’r athro dosbarth a fydd yna’n rhoi gwybod i’r Cydlynydd ADY os oes angen.

Dylid cynnwys rhieni ymhob rhan o’r drefn adolygu gan ddarparu gwybodaeth ysgrifenedig ar ffurf hygyrch a rhoi digon o rybudd o gyfarfodydd fel bod gan rieni/gofalwyr amser i baratoi. Bydd Ymarfer sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn yn allweddol wrth ymgysylltu â dysgwyr yn ogystal â’u teuluoedd.

Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru

Mae Sir Ddinbych wedi ymrwymo i’r egwyddorion a nodir yng Nghod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru a nodir ym Mhennod 3, yn cynnwys:

3.1. Mae’r egwyddorion y mae’r system ADY yn seiliedig arnynt yn ymwneud â chreu system addysg gwbl gynhwysol lle rhoddir cyfle i bob dysgwr lwyddo a chael addysg sy’n diwallu ei anghenion ac yn ei alluogi i fynd ati i ddysgu, manteisio ar ei addysg a’i mwynhau.

3.2. Yr egwyddorion sy’n sail i’r system ADY yw:

    1. Gweithredu ar sail hawliau lle mae safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r plentyn, rhiant y plentyn, neu’r person ifanc yn ganolog i gynllunio a darparu cefnogaeth; a lle mae’r plentyn, rhiant y plentyn, neu’r person ifanc yn cael ei alluogi i gyfrannu cymaint â phosibl at y prosesau gwneud penderfyniadau a lle mae ganddo hawliau effeithiol i herio penderfyniadau am ADY, DDdY a materion cysylltiedig.
    2. Adnabod, ymyrryd ac atal yn gynnar lle mae anghenion yn cael eu hadnabod a darpariaeth yn cael ei rhoi ar waith cyn gynted â phosibl a phryd bynnag y bo modd lle mae ymyriadau’n cael eu rhoi ar waith i atal ADY rhag datblygu neu waethygu.
    3. Cydweithredu ac integreiddio lle mae gwasanaethau’n gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod ADY yn cael eu hadnabod yn gynnar a bod cefnogaeth gydgysylltiedig briodol yn cael ei rhoi ar waith i alluogi plant a phobl ifanc i gyflawni disgwyliadau, profiadau a deilliannau cadarnhaol.
    4. Addysg gynhwysol lle caiff y rhan fwyaf o blant a phobl ifanc ifanc ag ADY eu cefnogi i gymryd rhan lawn mewn addysg brif ffrwd a lle y defnyddir dull lleoliad cyfan i ddiwallu anghenion dysgwyr ag ADY.
    5. System ddwyieithog lle cymerir pob cam rhesymol i gyflwyno DDdY yn y Gymraeg i blant a phobl ifanc sydd angen cefnogaeth drwy’r Gymraeg, gan ganiatáu ar gyfer cynyddu DDdY drwy’r Gymraeg dros amser.

UNCRC a UNCRPD

Mae Sir Ddinbych hefyd wedi ymrwymo i ystyried Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau:

3.11. Atgyfnerthir y dull seiliedig ar hawliau ymhellach gan y dyletswyddau ar awdurdodau lleol a chyrff y GIG i roi sylw i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl wrth wneud cynlluniau cyffredinol ar gyfer arfer swyddogaethau (gweler Pennod 5 am ragor o fanylion am y dyletswyddau hyn).

Darpariaeth Gyffredinol

Byddai hyn yn cynnwys:

Gwahaniaethu - Disgrifydd arferion effeithiol iawn a pharhaus: Mae gwahaniaethu’n soffistigedig iawn i’r graddau lle mae'r dysgwyr yn cydnabod pam mae angen iddynt gael eu hymestyn neu eu cynorthwyo ac yn cymryd rhan yn y gwaith o gynllunio profiadau dysgu.

3.2 (b) Adnabod, ymyrryd ac atal yn gynnar lle mae anghenion yn cael eu hadnabod a darpariaeth yn cael ei rhoi ar waith cyn gynted â phosibl a phryd bynnag y bo modd lle mae ymyriadau’n cael eu rhoi ar waith i atal ADY rhag datblygu neu waethygu.

Pan nodir nad yw’r cynnydd cystal â’r disgwyl, gallai fod angen rhoi ymyriadau / strategaethau ar waith sy’n targedu’r maes lle mae gwendidau gan y plentyn neu unigolyn ifanc. Mae’r Cod ADY (2021, t.229) yn esbonio:

20.14. Os nad yw'r cynnydd yn ddigonol, bydd angen cymryd camau ychwanegol neu wahanol er mwyn i'r dysgwr allu dysgu mewn ffordd fwy effeithiol.

Yr ymateb cyntaf i gynnydd annigonol, yn aml, fyddai targedu’r meysydd penodol hynny sy’n wan gan y dysgwr. Disgwylir i bob lleoliad addysg gyflwyno addysgu gwahaniaethol neu ymyriadau penodol eraill, â'r nod o sicrhau gwell cynnydd, lle bo'n briodol, i bob dysgwr.

Yn wir, bydd angen dull gwahaniaethol ar y rhan fwyaf o blant a phobl ifanc mewn rhyw agwedd ar eu haddysg ar ryw adeg. Mae hon yn elfen sylfaenol – ond arferol – o addysgu o ansawdd.

Hefyd:

20.15. Nid yw addysgu gwahaniaethol o'r fath, ynddo'i hun, yn gyfystyr â DDdY ac nid yw'r ffaith bod angen dull gwahaniaethol ar blentyn neu berson ifanc yn golygu bod ganddo ADY. Mae DDdY yn golygu hyfforddiant neu ddarpariaeth addysgol ychwanegol neu wahanol, sy'n mynd y tu hwnt i'r hyn sydd ar gael yn gyffredinol.

Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol:

Disgrifir y broses yn y Cod ADY (2021, t.230):

20.16. Os bydd cynnydd yn parhau i fod yn llai na'r disgwyl ac os nad yw dulliau addysgu gwahaniaethol neu ymyriadau safonol wedi'u targedu yn llwyddo i fynd i'r afael â'r bwlch cyrhaeddiad rhwng y plentyn neu'r person ifanc a'i gyfoedion, byddai hyn fel arfer yn dangos i'r ysgol, sefydliad addysg bellach neu awdurdod lleol y gallai fod gan y plentyn neu'r person ifanc ADY.

Mae’r awdurdod lleol yn cytuno â’r egwyddor fod plant yn mynd i’w hysgolion lleol ac yn dod yn rhan bwysig o’u cymunedau:

3.2 (d) Addysg gynhwysol lle caiff y rhan fwyaf o blant a phobl ifanc ifanc ag ADY eu cefnogi i gymryd rhan lawn mewn addysg brif ffrwd a lle y defnyddir dull lleoliad cyfan i ddiwallu anghenion dysgwyr ag ADY.

I hwyluso hyn dirprwyir cyllid ar gyfer ymgynnwys i’r ysgolion sydd i’w ddefnyddio’n benodol ar gyfer cefnogi’r dysgwyr hynny sy’n derbyn y Ddarpariaeth Gyffredinol, darpariaeth wedi’i thargedu a darpariaeth ddysgu ychwanegol, ac felly disgwylir y gall ysgolion gefnogi’r rhan helaeth o ddysgwyr heb fod angen cymorth gan yr awdurdod lleol. Byddai hynny’n cynnwys costau staffio am ba bynnag hyd o amser y mae angen y gefnogaeth, ynghyd ag adnoddau fel y bo’n briodol o fewn cyllideb ddirprwyedig yr ysgol.

Pan fydd ysgol yn teimlo ei bod wedi defnyddio’r holl Ddarpariaethau Dysgu Ychwanegol a ellir eu darparu ganddynt (yn cynnwys unrhyw gyngor ar gefnogaeth gan yr ALl) a’r dysgwyr yn dal ddim yn cyflawni cynnydd digonol, gall yr ysgol drafod gyda’r Awdurdod Lleol. Bydd hyn yn bennaf drwy’r Tîm o Amgylch yr Ysgol.

Mae enghreifftiau o ddarpariaeth ddysgu ychwanegol y byddai’n afresymol i ysgolion prif ffrwd ei chynnig yn cynnwys:

  • Darpariaeth Lleoliad Arbenigol
  • Lleoliad/Darpariaeth Arbenigol y Tu Allan i’r Sir

Caiff lleoliadau mewn darpariaeth arbenigol a gynhelir gan yr ALl a lleoliadau y tu allan i’r sir eu penderfynu gan Banel Cynhwysiant yr Awdurdod Lleol. Yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, lle pennir bod gan y dysgwr angen darpariaeth arbenigol gydag ysgol Sir Ddinbych a gynhelir, bydd yr ALl yn cyfeirio’r ysgol i gynnal y CDU.

Er y bydd y rhan fwyaf o’r CDU yn cael eu cynnal gan ysgolion, bydd ALl Sir Ddinbych yn paratoi ac yn cynnal CDU i blant a phobl ifanc gydag ADY sy’n Derbyn Gofal, sydd â Chofrestriad Deuol, ac sy’n cael eu lleoli mewn lleoliad arbenigol y tu allan i’r sir.

Cyngor ac Asesiadau

Mae ystod eang o gyngor ac asesiadau ar gael i ysgolion, megis y Tîm o Amgylch yr Ysgol, Seicolegwyr Addysg, Therapi Iaith a Lleferydd a gwasanaethau allgymorth yr awdurdod lleol. Mewn rhai achosion prin, fodd bynnag, bydd angen cyngor gan arbenigwyr allanol i’r fath raddau ac am gyfnod y byddai’n afresymol i’r ysgol ei drefnu. Byddai’r rhain yn cael eu trafod fel y bo angen yn y Tîm o Amgylch yr Ysgol neu gyda’r ALl.

Offer

Bydd disgwyl i’r ysgol ddarparu’r rhan helaeth o’r offer sydd ei hangen ar ddysgwyr drwy ei chyllideb ddirprwyedig. Pan mae angen offer iechyd arbenigol, fodd bynnag, bydd y Panel Offer Arbenigol yn dal i’w ddarparu a cheir mynediad ato ar sail atgyfeiriadau iechyd nad yw ysgolion yn medru eu gwneud yn uniongyrchol. Daw’r atgyfeiriadau fel arfer o’r gwasanaethau Ffisiotherapi a Therapi Galwedigaethol.