Manteision addysg cyfrwng Cymraeg
Mae gan addysg cyfrwng Cymraeg lwyth o fanteision.
Addysg
Manteision addysg cyfrwng Cymraeg ydy:
- mae rhan fwyaf o blant ifanc yn dysgu ieithoedd gwahanol yn haws nag oedolion
- mae plant dwyieithog yn tueddu i fod yn fwy llwyddiannus mewn addysg
- mae pobl ddwyieithog yn ei gweld yn haws i ddysgu ieithoedd ychwanegol
- mae plant sy’n derbyn addysg cyfrwng Gymraeg yn gwneud cystal, os nad gwell, yn Saesneg â phlant sy’n derbyn addysg cyfrwng Saesneg
Tystiolaeth:
Gyrfa
Mae addysg cyfrwng Cymraeg yn ddefnyddiol ar gyfer gyrfaoedd oherwydd:
- mae siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer nifer gynyddol o swyddi
- mae siarad dwy iaith yn rhoi sgil arall i’w roi ar eich ffurflen gais
- ar gyfartaledd, mae pobl ddwyieithog yn ennill mwy o gyflog
Tystiolaeth: Siaradwyr Cymraeg ‘yn fwy tebygol o dderbyn y cymwysterau a’r swyddi gorau’ (gwefan allanol)
Iechyd
Mae ymchwil yn dangos bod siarad dwy neu fwy o ieithoedd yn llesol i iechyd meddwl.
Tystiolaeth: Gohirio datblygiad clefyd Alzheimer (gwefan allanol)
Bywyd
Gall addysg Gymraeg helpu gydol oes oherwydd:
- mae medru’r iaith Gymraeg yn agor drysau i ddiwylliant a hanes Cymru
- mae medru’r Gymraeg yn cryfhau’r ymdeimlad o berthyn a hunaniaeth
- mae medru newid o un iaith i’r llall yn magu hyder a balchder
Tystiolaeth:Manteision dwyieithrwydd mewn Cymraeg a Saesneg (gwefan allanol)