Addysg cyfrwng Cymraeg: 0 i 4 oed
Dechrau taith ddwyieithog eich plentyn – sesiynau cyfrwng Cymraeg i chi a’ch plantyn.
Ti a Fi
Dewch â’ch plentyn i’r Cylch Ti a Fi i roi cyfle iddynt gwrdd yn rheolaidd â phlant eraill i fwynhau chwarae yn Gymraeg. Os ydych chi’n dod o deulu di-Gymraeg, mae mynychu Cylch Ti a Fi yn gyfle gwych i ddysgu ymadroddion a geiriau syml yn Gymraeg.
Dewch o hyd i’ch Cylch Ti a Fi agosaf (gwefan allanol)
Cylch Meithrin
Grwpiau chwarae cyfrwng Cymraeg sy’n hyrwyddo addysg a datblygiad i blant o ddwy oed i oedran ysgol; cyfle i blant gymdeithasu a dysgu trwy chwarae yn Gymraeg.
Dewch o hyd i’ch Cylch Meithrin agosaf (gwefan allanol)
Clwb Cwtch
Cwrs blasu’r Gymraeg am ddim i rieni yw Clwb Cwtsh, sydd wedi’i anelu at ddysgwyr newydd. Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar ddysgu iaith bob dydd yn y cartref.
Dysgwch fwy am sesiynau Clwb Cwtch (gwefan allanol)
Gofal Plant
Mae llawer o leoliadau’n cynnig gofal plant trwy gyfrwng y Gymraeg.
Gweld gwybodaeth am ddarpariaeth gofal plant yn Sir Ddinbych (gwefan allanol)
Amser Rhigwm Dechrau Da
Mae Amser Rhigwm Dechrau Da yn sesiynau ddwyieithog sy’n rhoi cyfle i chi gwrdd â rhieni eraill i wneud llyfrau’n hwyl i fabis a phlant ifanc, drwy ddefnyddio caneuon, rhigymau a symudiadau fydd yn datblygu iaith a sgiliau cymdeithasol.
Dysgwch fwy am wasanaethau llyfrgell i blant a theuluoedd
Cymraeg i Blant
Mae Cymraeg i Blant Sir Ddinbych yn cynnal nifer o wahanol grwpiau mewn lleoliadau gwahanol ar draws y sir i blant â’r nod o hyrwyddo dysgu a defnyddio’r Gymraeg ymhlith plant a’u rhieni.
Mae’r sesiynau yn cynnwys:
- Ioga Babi
- Stori a Rhigwm
- Tylino Babi
Dysgwch fwy am sesiynau Cymraeg i Blant (gwefan allanol)