Casgliadau ailgylchu a gwastraff
Ar eich diwrnod casglu arferol, sicrhewch fod eich cynwysyddion yn y man casglu erbyn 6.30am. Gallwn gasglu eich gwastraff unrhyw amser ar y diwrnod hwn hyd at 5pm, felly gadewch eich cynwysyddion allan tan hynny.
Casgliadau gwastraff a fethwyd
Gofynnwn yn garedig i chi beidio â rhoi gwybod am gasgliad a fethwyd tan ar ôl 5pm gan y bydd rhai criwiau yn parhau i gasglu gwastraff tan yr amser yma. Darganfod mwy am gasgliadau gwastraff a fethwyd.
Casgliadau tecstilau
Mae gan pob Siop Un Alwad yn y sir bellach fagiau ar gyfer ailgylchu tecstiliau sy’n barod i drigolion eu casglu. O ganlyniad i amgylchiadau tu hwnt i’n rheolaeth, doedd y bagiau ddim ar gael i’w dosbarthu gyda’r Trolibocs neu’r bagiau ailgylchu, ac ymddiheurwn am hyn. Dysgwch fwy am y gwasanaeth casglu tecstilau newydd.