Mae hawliau tramwy cyhoeddus ar agor i bawb bob amser, ac yn rhoi'r hawl i chi gerdded ar draws llwybrau penodol megis ffyrdd, llwybrau neu draciau, a allai fynd drwy drefi, cefn gwlad anghysbell neu eiddo preifat. Mae rhai hawliau tramwy ar agor i farchogwyr, beicwyr a modurwyr.
Rhoi gwybod am broblem gyda defnyddio hawl tramwy
Os oes gennych broblem gyda defnyddio hawl tramwy, megis rhwystr, wedi’i gynnal yn wael neu arwydd camarweiniol, cysylltwch â ni .
Gwneud cais am hawl tramwy cyhoeddus
Os ydych chi wedi cael eich stopio rhag defnyddio llwybr yr ydych yn credu bod gennych hawl i’w ddefnyddio, cysylltwch â ni yn y lle cyntaf i drafod unrhyw gais posibl.
Ymholiad am hawliau tramwy cyhoeddus neu lwybr
Os ydych am wneud cais, byddwn yn anfon y gwaith papur angenrheidiol atoch, a bydd angen i chi ei lenwi a'i ddychwelyd i ni, ynghyd â chopïau o'r dystiolaeth i gefnogi eich cais. Pan dderbyniwn eich cais, byddwn yn ei gofnodi ar y gofrestr, sydd ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd. Byddwn yn ymchwilio i'ch cais, ac yn gwneud penderfyniad ynglŷn ag a ddylid cadarnhau'r gorchymyn ar gyfer y cais.
Map a datganiad swyddogol
Mae hwn yn gofnod cyfreithiol o holl hawliau tramwy cyhoeddus, ac yn dangos ffordd bob llwybr cyhoeddus a llwybr ceffyl yn y sir. Gallwch weld y map gwreiddiol a chopïau gwaith trwy drefnu apwyntiad yng Nghaledfryn, Ffordd y Ffair, Dinbych. Cysylltwch â ni i wneud apwyntiad.
Mae'n rhaid i ni gadw cofrestr o'r holl geisiadau i addasu'r map diffiniol.
Gweld y gofrestr
Fforwm Mynediad Lleol Dwyrain Conwy a Sir Dinbych
Mae'r fforwm mynediad lleol yn cynnwys rhwng 12 a 20 aelod o grwpiau sydd â diddordeb megis cerddwyr, beicwyr, marchogwyr, defnyddwyr anabl a thirfeddianwyr. Mae'n cynghori'r cyngor, Cyfoeth Naturiol Cymru, a chyrff eraill ar faterion hawliau tramwy cyhoeddus. Mae'r fforwm yn cyfarfod o leiaf ddwywaith y flwyddyn.
Fforwm Mynediad Lleol Dwyrain Conwy a Sir Dinbych - Cyfarfodydd, cofnodion a rhaglenni
Dyddiad, lleoliad ac amser |
Rhaglen |
Cofnodion |
Ddydd Mercher 4 Medi 2019 yn Canolfan Cymunedol Ty Llywelyn am 10am |
Rhaglen |
|
Ddydd Mercher 19 Mehefin 2019 yn Pafiliwn Chwaraeon Corwen am 2pm |
Rhaglen |
Cofnodion |
Dydd Iau 7fed Mawrth 2019 yng Nghoed Pella am 10am |
Rhaglen |
Cofnodion |
Dydd Iau 6 Rhagfyr 2018 yngNghanolfan Ymwelwyr Llyn Brenig am 10:30am |
Rhaglen |
Cofnodion |
Ddydd Iau 7 Mehefin 2018 Yn Hwb Dinbych, Ffordd y Ffair, Dinbych |
Rhaglen |
Cofnodion |
Dydd Iau, 8 Mawrth 2018 yn Venue Cymru, Llandudno am 10:30am |
|
Cofnodion |
Dydd Iau 11 Ionawr yn Nova, Beach Road West, Prestatyn, LL19 7EY |
Rhaglen |
Cofnodion |
Dydd Iau 7 Medi 2017 yn Canolfan Ymwelwyr Parc Gwledig y Gogarth, Llandudno am 1pm |
Rhaglen |
Cofnodion |
Ddydd Mercher 7 Mehefin 2017 yng Nghanolfan Beicio Mynydd Oneplanet Adventure, Llandegla am 5:30pm |
Rhaglen |
Cofnodion |
Ddydd Mercher 8 Mawrth 2017 yn Glasdir, Plas yn Dre, Llanrwst LL26 0DF |
Rhaglen |
Cofnodion |
ddydd Mercher 14 Rhagfyr 2016 yn Ystad Rhug, Corwen am 13:30 |
- |
Cofnodion |
ddydd Mercher 14 Rhagfyr 2016 yn Ystad Rhug, Corwen am 10:00 am |
- |
Cofnodion |