Mae gennym ni ystod o adnoddau ar-lein ar gael i’ch helpu â’ch gwaith cartref neu ymchwil. Gallwch ddefnyddio’r rhain i gyd yn eich llyfrgell leol, a hefyd fe allwch ddefnyddio rhai ohonyn nhw o’ch cartref. Bydd rhai gwefannau’n gofyn i chi fewngofnodi â’ch rhif aelodaeth - dyma’r rhif ar eich cerdyn llyfrgell.
Cliciwch ar y penawdau isod i gael mwy o wybodaeth am yr adnoddau ar-lein a sut i'w defnyddio.
Mae’r gwasanaeth Mynediad i Ymchwil yn fenter newydd i roi mynediad am ddim i ystod eang o erthyglau ac ymchwil academaidd mewn llyfrgelloedd cyhoeddus ar draws y DU. Mae'r pynciau yn cynnwys celf, pensaernïaeth, busnes, peirianneg, hanes, ieithoedd, gwleidyddiaeth, athroniaeth, mathemateg a'r gwyddorau. Gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth hwn am ddim mewn unrhyw lyfrgell yn Sir Ddinbych.
Mynediad i Ymchwil
Mae gwefan Learn My Way yn cynnig cyrsiau arlein am ddim i ddechreuwyr, i’ch helpu chi i ddatblygu sgiliau digidol a gwneud y gorau o’r byd digidol. Dysgwch sut i ddefnyddio’r rhyngrwyd gyda’r cyrsiau hyn ar ddefnyddio cyfrifiadur, chwilota ar y we, gyrru ebost a dod o hyd i waith arlein.
Ewch i wefan Learn My Way
Adnodd ar-lein cynhwysfawr yn cynnwys dyddiaduron a deunydd cyfeirio ar bynciau’n cynnwys hanes, ieithoedd, meddygaeth, llenyddiaeth, celfyddyd, pensaernïaeth, bwyd a diod, gwleidyddiaeth, gwyddorau cymdeithasol a mwy.
Oxford Reference
Gwyddoniadur ar-lein o ffilm a theledu, gyda chlipiau fideo, cyfweliadau, erthyglau, lluniau llonydd a phosteri.
BFI Screenonline
Chwiliwch filoedd o ddogfennau ar-lein fel cofnodion cyfrifiad, plwyf, milwrol, geni, priodas a marwolaeth, i’ch helpu i olrhain eich achres. Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth yma am ddim mewn unrhyw lyfrgell yn Sir Ddinbych.
Ancestry: rhifyn llyfrgell
Defnyddiwch y wefan hon i ddarganfod awduron newydd y mae eu gwaith yn debyg i awduron rydych chi eisoes yn eu hoffi.
Who Else Writes Like...?
Pan fydd plant yn gofyn 'Pwy alla i ddarllen nesaf?' neu 'Pwy sy'n ysgrifennu fel fy hoff awdur?' mae'r atebion yma ar 'Pwy Nesaf?' Rhestrir awduron ffuglen plant gydag awgrymiadau o awduron eraill sy'n ysgrifennu mewn ffordd debyg, ynghyd â theitlau llyfrau a chyfresi allweddol.
Pwy Nesaf?
Os ydych chi'n aelod o'r llyfrgell, gallwch chi lawrlwytho e-gronau am ddim. Gallwch chi lawrlwytho e-gronau dros y we, ond er mwyn eu darllen all-lein bydd angen i chi lawrlwytho'r app RBdigital Magazines i'ch cyfrifiadur neu ddyfais.
Mwy o wybodaeth am e-gronau.
Mae Theory Test Pro yn efelychiad realistig ar-lein o brawf theori gyrru'r Deyrnas Unedig. Mae'n cynnwys y cyfan o'r cwestiynau swyddogol, deunydd fideo ar ganfod perygl a fersiwn ar-lein o Reolau'r Ffordd Fawr. Mae’r holl ddeunydd wedi ei drwyddedu gan yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) , y pobl sy’n gosod y profion.
Mae mynediad i Theory Test Pro yn rhad ac am ddim i drigolion sy’n galw mewn i unrhyw lyfrgell yn Sir Ddinbych. Gall aelodau llyfrgell Sir Ddinbych hefyd ddefnyddio Theory Test Pro unrhywle le gyda’u cerdyn llyfrgell.
Sut i ddefnyddio Theory Test Pro
Y tro cyntaf, bydd angen i chi gofrestru gyda’ch enw, cyfeiriad ebost a chyfrinair. Nid oes angen talu. Bydd y wybodaeth yma yn galluogi Theory Test Pro i gofio eich sgôr yn y profion er mwyn i chi ddilyn eich cynnydd wrth ymarfer ar gyfer y prawf.
Os ydych yn ei ddefnyddio adref neu y tu allan i’r llyfrgell byddwch hefyd angen rhif eich cerdyn llyfrgell. Os nad ydych yn aelod o’r llyfrgell yn barod, gallwch ymuno yma.
Cliciwch yma i ddefnyddio Theory Test Pro