Os na fyddwch yn gallu mynd i’r llyfrgell oherwydd salwch neu anabledd, gall ein gwasanaeth llyfrgell cartref ddod â rhai defnyddiau i’ch cartref unwaith y mis, yn cynnwys:
- llyfrau
- llyfrau print mawr
- llyfrau llafar
- DVDs
Gallwn ddod ag eitemau i’ch cartref, llety gwarchod, cartref nyrsio neu ganolfan ddydd.
Gallwch hefyd ddefnyddio ein catalog ar-lein i ofyn am eitemau 24 awr y dydd.
Sut mae cofrestru ar gyfer y gwasanaeth llyfrgell cartref?
Os byddwch chi, neu rywun rydych chi’n eu hadnabod, yn hoffi defnyddio’r gwasanaeth llyfrgell cartref, ffoniwch ni ar 01824 705274.