Gallwch fenthyca eitemau am 3 wythnos ar y tro. Os na fyddwch wedi gorffen â nhw wedi 3 wythnos, gallwch eu hadnewyddu er mwyn gallu eu cadw am 3 wythnos arall, cyn belled nad oes unrhyw un arall wedi gofyn amdanyn nhw.
Sut mae adnewyddu eitemau?
Adnewyddu eich eitemau ar-lein
Mewngofnodwch gan ddefnyddio rhif eich cerdyn llyfrgell a’r rhif PIN, a dewiswch yr eitemau’r ydych am eu hadnewyddu.
Gallwch adnewyddu eich eitemau’n bersonol hefyd yn eich llyfrgell, neu ffoniwch eich llyfrgell i’w hadnewyddu ar y ffôn.