Mae pob ysgol yn Sir Ddinbych yn darparu cinio ysgol. Mae cinio ysgol ysgolion cynradd â phris penodol ond mae ysgolion uwchradd â phrisiau gwahanol ar gyfer prydau bwyd gwahanol.
Pwy sy’n gymwys i dderbyn cinio ysgol am ddim?
Fe all eich plentyn chi gael cinio ysgol am ddim os ydych chi’n derbyn unrhyw un o’r budd-daliadau canlynol:
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
- Credyd Pensiwn; Credyd Gwarantedig
- Treth Credyd Plant (ond nid Credyd Treth Gwaith) gydag incwm blynyddol llai na £16,190
- Cymorth o dan Adran VI o Ddeddf Lloches a Mewnfudo 1999
- Credyd Cynhwysol - O 1 Ebrill 2019, i fod yn gymwys am brydau ysgol am ddim trwy dderbyn Credyd Cynhwysol, ni ddylai’ch enillion net blynyddol fod dros £7,400.
Mwy o wybodaeth am y budd-daliadau hyn.
Nid oes modd i blentyn maeth dderbyn cinio ysgol am ddim. Mae rhieni maeth eisoes yn cael lwfans i edrych ar ôl y plentyn.
Sut ydw i’n hawlio cinio ysgol am ddim?
Dim ond i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am ysgol eich plentyn y gellir cyflwyno cais am ginio ysgol am ddim.
Os yw eich plentyn yn mynychu ysgol yn Sir Ddinbych, gallwch wneud cais ar-lein am ginio ysgol am ddim.
Os ydych yn derbyn prydau ysgol am ddim ar hyn o bryd gan eich bod yn derbyn Credyd Cynhwysol, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth; Credyd Gwarant Pensiwn neu Gysylltiedig ag Incwm, byddwch yn parhau i’w derbyn tan fis Rhagfyr 2023.
Bydd angen i chi roi gwybod i ni os yw eich plentyn yn gadael neu’n newid ysgol cyn hynny.
Dylech lenwi ffurflen gais prydau ysgol am ddim newydd os yw’ch plentyn wedi symud i ysgol arall yn Sir Ddinbych neu Cysylltwch â ni i ganslo cinio ysgol am ddim
Gwneud cais ar-lein am ginio ysgol am ddim (ar gyfer plentyn yn un o ysgolion Sir Ddinbych)
Gwybodaeth gan Awdurdodau Lleol eraill
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
- Cyngor Sir y Fflint
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam