Mae eich lles yn y gweithle yn hanfodol i helpu i gyflawni eich llawn botensial.
I'ch helpu i gadw'n iach ac i'ch cefnogi yn y gwaith, mae'r cyngor yn cynnig amrywiaeth o fuddion, gwasanaethau a chyfleusterau gan gynnwys gweithio hyblyg.
Adnoddau lles
GIG Cymru:
Dewis Cymru yw'r lle am wybodaeth am les yng Nghymru. Mae gan DEWIS wybodaeth a all eich helpu i feddwl am yr hyn sy’n bwysig i chi, ac mae gennym hefyd wybodaeth am sefydliadau a gwasanaethau a all helpu.
Ewch i wefan www.dewis.cymru
Mae GetSelfHelp.co.uk yn cynnig Therapi Ymddygiad Gwybyddol, hunangymorth ac adnoddau therapi, gan gynnwys taflenni gwaith, taflenni gwybodaeth ac MP3s.
Ewch i www.getselfhelp.co.uk
Iechyd Galwedigaethol
Mae tîm Iechyd Galwedigaethol yr cyngor yn cynnwys trosolwg o les ein staff ac mae’n cynnig gwasanaethau arbenigol i’r Awdurdod, rheolwyr ac unigolion.
Mae gwybodaeth am y tîm Iechyd Galwedigaethol ar y Fewnrwyd (Angen mewngofnodi).
Iechyd a Diogelwch
Mae’r cyngor wedi ymrwymo i ddarparu a chynnal amgylchedd gwaith iach a diogel i’w holl staff. Mae gwybodaeth am wasanaethau Iechyd a Diogelwch ar y fewnrwyd. (Angen mewngofnodi)
Mae’r cyngor wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol i bawb sy’n gweithio yma.
Mae’r menopos yn rhan naturiol o fywyd pob merch, ac nid yw bob amser yn drawsnewidiad rhwydd. Gyda’r gefnogaeth gywir, gall fod yn llawer gwell. Er nad yw pob merch yn dioddef y symptomau hyn, bydd cefnogi’r rhai sy’n eu dioddef yn gwella eu profiad yn y gwaith. Mwy...
Cydbwysedd Bywyd a Gwaith
Mae’r cyngor yn dangos ei ymrwymiad i gydbwysedd bywyd a gwaith cadarnhaol drwy gynnig gweithio’n hyblyg, hawl i wyliau hael a’r cyfle i ymestyn cyfnodau gwyliau. Ewch i’r tudalennau gwyliau a phresenoldeb i gael gwybod mwy.