Mae yna bolisïau statudol ac anstatudol i ysgolion yn Sir Ddinbych, yn ogystal â pholisïau y mae Cyngor Sir Ddinbych yn eu defnyddio i ddarparu gwasanaethau addysg eraill.
Y Cyrff Llywodraethu sy’n gyfrifol am bennu holl bolisïau’r ysgol.
Rydym ni’n cynhyrchu polisïau enghreifftiol, y mae’r corff llywodraethu’n eu hystyried ac fel arfer yn eu mabwysiadu heb wneud unrhyw newidiadau i’r cynnwys, ar wahân i ychwanegu enw a logo’r ysgol.
Dylid nodi dyddiad mabwysiadu pob polisi gan y corff llywodraethu llawn. Mae hyn yn sicrhau bod polisïau’r ysgol yn cydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol. Mae hefyd yn sicrhau eu bod yn cydymffurfio ag unrhyw arferion a gweithdrefnau a bennir ar ôl ymgynghori ag undebau, penaethiaid a chadeiryddion cyrff llywodraethu.
Rydym yn argymell bod polisïau’r ysgol yn cael eu harchwilio i wneud yn siŵr bod yr holl bolisïau ar gael.
Gallwch wneud cais i’r pennaeth am gopi o unrhyw un o bolisïau’r ysgol.
Mae rhai o’r dogfennau isod ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd. Rydym yn gweithio ar y fersiynau Cymraeg a byddwn yn trefnu iddynt fod ar gael gynted ag y byddant yn barod. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Polisïau statudol i ysgolion
Dyma’r polisïau y mae dyletswydd ar gyrff llywodraethu ysgolion i’w cynhyrchu a’u mabwysiadu.
Rydym yn gweithio ar fodel ac yn annog ysgolion i greu eu polisïau eu hunain ar;
Polisïau argymelledig anstatudol i ysgolion
Nid oes rhaid mabwysiadu’r polisïau hyn yn ôl y gyfraith, ond rydym yn argymell bod ysgolion yn eu cynhyrchu. Y corff llywodraethu sy’n gyfrifol am gynhyrchu’r polisïau hyn;
Rydym yn gweithio ar fodel ac yn annog ysgolion i greu eu polisïau eu hunain ar;
- Reoli Eiddo
- Polisi Datblygu Cynaliadwy
Polisïau gwasanaethau addysg Cyngor Sir Ddinbych
Rydym yn defnyddio’r polisïau canlynol i ddarparu gwasanaethau addysg;