March for Business logo

Mis Mawrth Menter

Mae ymgyrch Mis Mawrth Menter yn darparu gweithdai yn rhad ac am ddim, digwyddiadau rhwydweithio a sesiynau cyngor ar gyfer busnesau ledled Sir Ddinbych.

Gwasanaethau a gwybodaeth

Rheoli eich cyllid a threth (gwefan allanol)

Mae'r gweithdy yn anelu at ddarparu gwybodaeth i gefnogi chi gyda lwfansau personol a chyfalaf, treth syml a chyfrifiadau YG a hunan-asesu.

Dechrau a rhedeg eich busnes eich hun (Traddodir yn Gymraeg) (gwefan allanol)

Bydd y gweminar hwn yn eich helpu i ddeall beth sydd ei angen i ddechrau busnes, ac yn eich helpu i asesu a oes gennych chi’r gallu i fod yn llwyddiannus. Bydd y gweminar hon yn cael ei chynnal a'i chyflwyno gan ddefnyddio'r Gymraeg.

Ymchwilio a chynllunio eich gweithgaredd marchnata (gwefan allanol)

Mae'r gweithdy hwn yn mynd â chi drwy'r broses ymchwil i'r farchnad.

Dechrau a rhedeg eich busnes eich hun

Bydd y gweminar hwn yn eich helpu i ddeall beth sydd ei angen i ddechrau busnes, ac yn eich helpu i asesu a oes gennych chi’r gallu i fod yn llwyddiannus.

Digwyddiad Dathlu 20fed Canolfan Technoleg OpTIC (gwefan allanol)

Ymunwch â ni am lu o gyflwyniadau a phrif sgyrsiau sy'n edrych yn ôl ar yr 20 mlynedd diwethaf o OpTIC, yn ogystal â chipolwg cyffrous ar brosiectau presennol ac yn y dyfodol.

Y Gymraeg mewn Busnes

Ymunwch â ni ar gyfer y gweminar hon i archwilio manteision y Gymraeg mewn busnes.

Sesiwn alw heibio Cymorth i Fusnesau

Mae'r Sesiwn alw heibio Cymorth i Fusnesau ar gyfer busnesau neu’r rhai sy’n ystyried dechrau busnes neu sydd wedi dechrau busnes i siarad gyda darparwyr cymorth am ystod o bynciau, yn cynnwys dechrau busnes, cyllid a thwf.

Rhwydweithio Mis Mawrth Menter Sir Ddinbych (gwefan allanol)

Ymunwch â'r digwyddiad hwn i rwydweithio â busnesau eraill yn Sir Ddinbych a lledaenu'r gair am y gwasanaethau rydych chi'n eu darparu.

Marchnata Digidol (gwefan allanol)

Ymunwch â ni ar gyfer y weminar 1 awr hon a ddyluniwyd yn benodol ar gyfer busnesau bach ac entrepreneuriaid sydd am dyfu eu presenoldeb ar-lein a denu mwy o gwsmeriaid.

Swper Mis Mawrth Busnes Gogledd Cymru (gwefan allanol)

Ymunwch â ni am dderbyniad diodydd cyn cinio, pryd tri chwrs blasus, cwmni da, cyfleoedd rhwydweithio a noson llawn gwybodaeth a chefnogaeth ymarferol i fusnes.