Prosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Prosiect Natur er Budd Iechyd

Arweinydd y Prosiect: Cyngor Sir Ddinbych
Mae’r prosiect nawr wedi’i gwblhau.
Trosolwg o’r prosiect
Mae'r Rhaglen Natur er Budd Iechyd yn darparu cyfleoedd i helpu pobl i fyw bywydau iachach a mwy bodlon trwy wella mynediad i'r amgylchedd naturiol ar lefel leol.
Mae’r prosiect yn darparu sesiynau wythnosol sy’n cynnwys sgiliau cadwraeth a gwledig, teithiau cerdded iechyd a natur, celf a chrefft a sesiynau tyfu eich cynnyrch eich hun ynghyd â chyfleoedd i wirfoddoli a datblygu sgiliau.
Diweddariad y prosiect
Crynodeb olaf y prosiect (Blwyddyn Drosiannol 2025–26)
Yn dilyn llwyddiant y pwll cyntaf ym Mharc Bruton, mae ail bwll wedi ei greu i wella cysylltedd a bioamrywiaeth bywyd gwyllt ymhellach, gyda gwirfoddolwyr yn cefnogi sefydliad cynefin trwy blannu.
Yn y Rhyl, bu i gyfranogwyr ym Mharc Phoenix gwblhau cwrs coginio saith wythnos, gan ddatblygu sgiliau coginio ymarferol.
Mae gwirfoddolwyr yng Nghoed y Morfa wedi parhau gyda gweithgareddau crefft treftadaeth, gan gynnwys gosod ffens bleth i amddiffyn ardaloedd blodau gwyllt newydd a rhai sy’n bodoli.
Yng Ngwarchodfa Natur Rhuddlan, mae llwybr pren newydd wedi gwella hygyrchedd a nifer yr ymwelwyr.
Yn y cyfamser, mae gwelliannau yng Ngardd Gymunedol Corwen wedi gwella mynediad a lle i dyfu trwy waith ail-wynebu ac ychwanegu gwelyau uchel a gwelyau twll clo. Bu i’r ardd hefyd gynnal digwyddiad dathlu i gyhoeddi’r llyfr ryseitiau ‘Gardd a Gwledd / Garden and Gather’, casgliad o ryseitiau tymhorol a grëwyd gan wirfoddolwyr a’r tîm Natur er Budd Iechyd ar gyfer y gymuned ehangach.
Crynodeb y prosiect - mis Rhagfyr 2022 i fis Mawrth 2025
Roedd y Rhaglen Natur er Budd Iechyd yn canolbwyntio ar weithgareddau lles yn seiliedig ar natur. Darparodd dros 9,000m² o welliannau i fannau gwyrdd a 946 o gyfleoedd gwirfoddoli gan wella iechyd meddwl, cydlyniant cymunedol a bioamrywiaeth.